Gamal El-Ghitani

Oddi ar Wicipedia
Gamal El-Ghitani
Ganwyd9 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Sohag Governorate Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 2015 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFree Egyptians Party Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://alghitany.shorouk.com// Edit this on Wikidata

Nofelydd a golygydd Eifftaidd yn yr iaith Arabeg oedd Gamal El-Ghitani (9 Mai 1945 – 18 Hydref 2015). Roedd yn adnabyddus am feirniadu'r Frawdoliaeth Fwslimaidd a'r arlywyddion Nasser a Morsi.[1]

Ganwyd yn nhref Guhayna yn ardal Sohag, ar lannau Afon Nîl. Astudiodd yng Ngholeg Celf a Chrefft Cairo, a gweithiodd fel dylunydd carpedi. Cafodd ei garcharu am chwe mis ym 1966–67 am wrthwynebu'r llywodraeth.[1] Cafodd swydd yn ohebydd rhyfel i'r papur newydd Akhbar el-Yom ym 1969, ac ysgrifennodd adroddiadau am Ryfel Yom Kippur ym 1973.[2]

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ac enwocaf, Al-Zaynī Barakāt, ym 1974. Ymhlith ei weithiau eraill mae Waqāʾiʿ ḥārat al-Zaʿfarānī (1976), Khiṭaṭ al-Ghīṭānī (1980), Khitāb al-tajalliyāt (tair chyfrol; 1983–86), Al-majālis al-Maḥfūẓīyah (2006), a Dafātir al-tadwīn (chwe chyfrol; 1996–2008). Daeth yn olygydd diwylliant y papur newydd Al-Akhbar ym 1985. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Akhbar Al-Adāb ym 1993, ac ef oedd y prif olygydd nes 2011. Derbyniodd Wobr y Nîl, anrhydedd uchaf yr Aifft, yn 2015.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gamal al-Ghitani. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.
  2. (Saesneg) Sam Roberts, "Gamal al-Ghitani, Egyptian Novelist With a Political Bent, Dies at 70", The New York Times (21 Hydref 2015). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.
  3. (Saesneg) Shannon Baxter, "Gamal el-Ghitani: Egyptian author who wrote caustic political parables and founded outspoken 'Akhbar Al-Adab'", The Independent (19 Hydref 2015). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.