Gaara

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad yn y gyfres manga ac anime Naruto yw Gaara (我愛羅 - Japaneg). Crëwyd gan Masashi Kishimoto. Mae'n cyferbynnu gyda'r prif gymeriad, Naruto Uzumaki. Magwyd y ddau mewn amgylchiadau tebyg, ond maent wedi datblygu personoliaethau gwahanol wrth ddelio gyda plentyndod caled. Cyflwynwyd yn wreiddiol fel gelyn i Naruto, ond maent yn dod yn ffrindiau da wrth i'r gyfres barhau.

Gaara yn yr anime

Hanes[golygu | golygu cod]

Ninja o Sunagakure yw Gaara. Mae ganddo chwaer a brawd, Temari a Kankuro. Nhw yw plant arweinydd eu pentref, y pedwaredd Kazekage. Dewiswyd Gaara gan ei dad i fod yn gwestywr i gythraul y Shukaku (neu Ichibi, sydd â un cynffon). Mewn canlyniad, bu farw ei fam wrth iddo gael ei eni.

Golwg[golygu | golygu cod]

Mae gan Gaara gwallt coch, y gair "cariad" ar ei ben mewn Japaneg (愛), a llygaid gwyrddlas gyda beth sydd yn edrych fel llinellwr llygaid du. Gowrd sydd ar ei gefn llawn tywod sydd yn actio fel amddiffyniad diamod wrth iddo cael ei ymosod arno.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato