Fyny Gyda'r Swans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fyny Gyda'r Swans
Cyfres Stori Sydyn Fyny Gyda'r Swans (llyfr).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Llyfr edit this on wikidata
Awdur Owain Tudur Jones ac Alun Gibbard
Cyhoeddwr Y Lolfa
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Dyddiad cyhoeddi 20 Chwefror 2009 Edit this on Wikidata
Pwnc Cofiannau
Argaeledd allan o brint
ISBN 9781847711151
Tudalennau 72 Edit this on Wikidata
Genre Llyfrau ffeithiol
Cyfres Cyfres Stori Sydyn
Dynodwyr
ISBN-13 978-1-84771-115-1 Edit this on Wikidata

Llyfr Cymraeg am bêl-droed am Owain Tudur Jones ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Fyny Gyda'r Swans sy'n un o gyfrolau'r gyfres Stori Sydyn. Gwasg Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2009. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyffro bywyd pêl-droediwr gyda'r 'Swans', y cyfryngau a charfan Cymru yw ei themau. Roedd arwyddo i'r Swans yn freuddwyd i Owain Tudur Jones, yn arbennig wrth ennill clod a dyrchafiad o dan Roberto Martinez. Un a wireddodd y freuddwyd honno yw Owain Tudur Jones, a gafodd ei hun yn rhan o’r Bencampwriaeth gyda’r Swans ac yn aelod o garfan Cymru.

Ceir isafbwyntiau hefyd, fel gorfod eistedd ar y fainc yn ystod gêm ar ôl gêm. Ac mae’r rhwystredigaeth hynny yn rhan o fywyd Owain hefyd.

Yn y gyfrol, a ysgrifennwyd gyda chymorth Alun Gibbard, mae Owain yn adrodd ei hanes oddi ar ei lencyndod gyda chlwb Bangor hyd at y foment wefreiddiol pan arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda’r Swans. Mor hawdd fyddai iddo ramanteiddio. Ond, na. Dengys, yn hytrach, mor gul yw'r ffin rhwng llwyddiant a methiant.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  • Daw rhan o'r testun uchod o wefan Gwales; awdur: Lyn Ebenezer.