Ffon barch Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Hywel Evans gyda 'ffon barch' Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth

Cyflwynir Ffon barch Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn flynyddol i berson sydd wedi ei ddewis i fod yn Tywysydd yn nathliadau Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth.

Caiff y ffon ei chyflwyno fel arwydd o barch a gwerthfawrogriad i'r Tywysydd am ei gwaith dros y Gymraeg a'r gymuned lleol yn Aberystwyth. Mae'r Tywysydd hefyd yn gwisgo sash arbennig gyda'i enw arno ar gyfer yr orymdaith. Ond, tra bydd y sash yn cael ei ddychwelyd i drenwyr y Parêd, caiff y Tywysydd gadw y ffon am byth.

Gwlad y Basg[golygu | golygu cod]

Yn ôl Siôn Jobbins, sylfaenydd y Parêd, seilir y ffon barch ar draddodiad y makila o Wlad y Basg.[1] Yno fe gyflwynir makila fel arwydd o awdurdod a chyfrder. Ar y ffon Gymreig fe geir tarian fechan gydag enw'r Tywysydd a dyddiad y Parêd.

Crefftwaith[golygu | golygu cod]

Cynhyrchir a naddir y ffon gan Hywel Evans o bentref Capel Dewi ger Aberystwyth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]