Fflora Lusitanaidd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia

Casgliad bychan o blanhigion sy'n dangos dosbarthiad cyfyngedig a phenodol yw'r fflora Lusitanaidd gan mai dim ond ym Mhenrhyn Iberia neu dde-orllewin Iwerddon y'u ceir yn bennaf.[1][2] Yn gyffredinol, nid yw'r planhigion i'w cael yn Lloegr na gorllewin Ffrainc er bod cynefin addas bron yn sicr yn bodoli yn y rhanbarthau hynny. Ar hyn o bryd mae'r planhigion yn cynnwys tua 15 rhywogaeth i gyd ac yn cynnwys enghreifftiau fel y chwain Gwyddelig, coeden fefus a bresych San Padrig. Mae'r grŵp o ddiddordeb a phwysigrwydd arbennig oherwydd ni ddeallir ar hyn o bryd sut y daeth y dosbarthiad daearyddol presennol i fod. Mae'r pos bioddaearyddol hwn wedi bod yn destun dadl academaidd ers canol y 19eg ganrif. Ac nid yw'n amlwg sut y gwnaeth daearyddiaeth y gorffennol ffafrio mudo rhwng Sbaen a de Iwerddon heb ganiatau hefyd mudo i leoedd eraill hefyd yng ngorllewin Ewrop[3]. Mae damcaniaethau gwrthgyferbyniol, sydd heb eu datrys eto, yn canolbwyntio ar y cwestiwn 'a yw poblogaethau Gwyddelig yn greiriol, wedi goroesi cyn yr oes iâ ddiwethaf neu a ydynt wedi cael eu cludo yno yn ystod y 10,000 o flynyddoedd diwethaf'. Mae llawer o'r rhywogaethau hefyd yn gyfyngedig iawn yn eu dosbarthiad yn Iwerddon, ac wedi dod yn ganolbwynt ymdrechion cadwraeth dwys yn y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft y cedowydd Gwyddelig Inula salicina.

Ffawna Lusitanaidd[golygu | golygu cod]

Dylid nodi nad planhigion yw'r unig organebau i ddangos y dosbarthiad annisgwyl hwn Mae yna gyfres o anifeiliaid hefyd y gellir eu disgrifio fel Ffawna Lusitanaidd. Mae'r ffawna yn cynnwys gwlithen Kerry.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Irish Wildflowers[1]