Ffilm yng Nghanada
Enghraifft o'r canlynol | byd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth |
---|---|
Math | media of Canada |
Rhan o | byd celf yng Nghanada |
Lleoliad | Canada |
Yn cynnwys | Film industry in Hamilton, Ontario |
Gwladwriaeth | Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dangoswyd ffilm am y tro cyntaf yng Nghanada yn 1896 yn Quebec. Trefnwyd y dangosiad gan Louis Minier a Louis Pupier, gan ddefnyddio sinematograff.[1] Cynhyrchwyd rhai o'r ffilmiau cyntaf a wnaed yng Nghanada gan James Freer, a brynodd gamera Edison a thaflunydd a dechrau ffilmio gweithgareddau amaethyddiaeth a threnau'r Canadian Pacific Railway ym 1897.[2]
Sefydlwyd Bwrdd Ffilm Cenedlaethol Canada gan y llywodraeth ffederal ym 1939 i gynhyrchu ffilmiau, stribedi ffilm, a ffotograffau sy'n darlunio bywyd, diwylliant a meddwl Canada ac i'w dosbarthu ar draws y wlad ac i wledydd tramor. Daeth Canada i'r amlwg fel un o brif wneuthurwyr ffilmiau dogfen y byd. Ym 1967 sefydlodd y llywodraeth Gorfforaeth Ddatblygu Ffilmiau Canada i feithrin ac hyrwyddo diwydiant ffilmiau'r wlad drwy fenthyg arian i gynhyrchwyr a buddsoddi mewn ffilmiau hir.
Mae Canada yn gartref i sawl gŵyl ffilm, gan gynnwys Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Vancouver, Gŵyl Ffilmiau'r Byd Montréal, a Gŵyl Ffilmiau Whistler. Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn canolbwyntio ar ffilmiau sy'n ymwneud â mynyddoedd, gan gynnwys fforio, chwaraeon ac anturio, bywyd mynyddig, a'r amgylchedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pallister, Janis (1995). The Cinema of Quebec: Masters in Their Own House (yn Saesneg). Associated University Presses. ISBN 0838635628.
- ↑ Morris, Peter, gol. (1978). Embattled Shadows: A History of Canadian Cinema 1895-1939 (yn Saesneg). McGill–Queen's University Press. ISBN 9780773560727.