Ffilm gyffro seicolegol

Oddi ar Wicipedia
Ffilm gyffro seicolegol
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathffuglen gyffro seicolegol, ffilm gyffro, ffilm seicolegol Edit this on Wikidata

Genre ffilm sy'n cyfuno stori gyffro â themâu seicolegol yw ffilm gyffro seicolegol. Mae ffilmiau o'r fath yn canolbwyntio ar agweddau meddyliol ac emosiynol y cymeriadau, ac yn archwilio'u hofnau, obsesiynau, a chroestyniadau mewnol, gan greu tensiwn yn y stori ac ennyn ias a chyffro yn y gynulleidfa.

Mae plotiau cyffro seicolegol yn aml yn ymwneud â "gemau'r meddwl", megis twyll a chelwydd, dibwyllo, a chamdriniaeth seicolegol. Mae cymeriadau'n defnyddio tactegau seicolegol i reoli a thanseilio'i gilydd, ac yn aml mae'r gynulleidfa ei hun yn anymwybodol o'r safbwynt sydd yn wir, gan greu ansicrwydd a phryder. Gall y prif gymeriad fod yn esiampl o adroddwr annibynadwy. Mae hynt anrhagweladwy y ffilm yn aml yn cynnwys troeon yn y stori a datgeliadau annisgwyl.

Mae'r ffilm gyffro seicolegol yn un o is-genres y ffilm gyffro. Ceir mathau eraill o ffilmiau seicolegol hefyd, gan gynnwys y ffilm arswyd seicolegol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]