Neidio i'r cynnwys

Dibwyllo

Oddi ar Wicipedia
Dibwyllo
Enghraifft o:Therapy speak, buzzword Edit this on Wikidata
Mathcam-drin seicolegol, manipulation, narcissistic abuse Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07h4c7 edit this on wikidata
QuoraGaslighting edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae dibwyllo (a elwir hefyd yn gasleitio) yn ymadrodd llafar a ddiffinnir yn fras fel twyllo rhwyun er mwyn gwneud iddynt gwestiynu eu cof eu hunain.[1] Mae'r term Saesneg (gaslighting) yn deillio o deitl y ffilm Americanaidd Gaslight o 1944, er na ddefnyddiwyd y term yn eang yn Saesneg nac yn Gymraeg tan ganol y 2010au.[2]

Gellir defnyddio'r term hefyd i ddisgrifio person (sef "dibwyllwr" neu "gasleitiwr") sy'n cyflwyno gwybodaeth ffug i rywun, yn aml fel rhan o ymgyrch, i wneud iddynt "amau eu cof eu hunain o ddigwyddiadau ac i amau eu pwyll".[1] Yn aml, mae hyn er mantais i'r dibwyllwr ei hun, ond nid yw dibwyllo yn fwriadol bob tro.[3]

Charles Boyer, Ingrid Bergman, a Joseph Cotten yn y ffilm Gaslight (1944)

Dulliau cyffredin o ddibwyllo

[golygu | golygu cod]

Gwahanol dechnegau a ddefnyddir gan ddibwyllwyr i gamdrin eu dioddefwyr, fel drysu. Ar wahân i ddrysu, gallant ddefnyddio dulliau eraill gan gynnwys:[4]

Cuddio neu gelu ffeithiau

[golygu | golygu cod]

Mae'r camdriniwr yn esgus nad yw'n deall y dioddefwr.

Cwestiynu

[golygu | golygu cod]

Mae'r camdriniwr yn cwestiynu cof y dioddefwr er bod y dioddefwr wedi cofio digwyddiadau yn gywir.

Newid y pwnc

[golygu | golygu cod]

Mae camdriniwr yn newid pwnc y sgwrs a chwestiynu meddyliau'r dioddefwr ac wedyn yn rheoli'r sgwrs.

Trifialeiddio

[golygu | golygu cod]

Mae'r camdriniwr yn rheoli meddyliau'r dioddefwr, ac yn gwneud iddynt gredu nad yw eu meddyliau a/neu eu hanghenion yn bwysig.

Anghofio a gwrth-ddweud

[golygu | golygu cod]

Mae camdriniwr yn esgus anghofio yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd; gall y camdriniwr gwrth-ddweud neu oedi pethau fel addewidion sy’n bwysig i’r dioddefwr. Tra bo pawb yn anghofio a gwrth-ddweud weithiau, mae'n bwysig nodi bod dibwyllwyr yn gwneud hynny'n rheolaidd heb gyfyngiadau allanol go iawn. Gall y dibwyllwr greu neu ffugio rhwystrau artiffisial i ganiatáu iddo'i hun wadu neu ohirio'r hyn sy'n bwysig i'r dioddefwr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Gaslighting". BydTermCymru. Llywodraeth Cymru. 21 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  2. ↑ Yagoda, Ben (12 Ionawr 2017). "How Old Is 'Gaslighting'?". The Chronicle of Higher Education (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
  3. ↑ DiGiulio, Sarah. "What is gaslighting? And how do you know if it's happening to you?". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
  4. ↑ "Gaslighting Definition, Techniques and Being Gaslighted | HealthyPlace". HealthyPlace (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.