Exminster

Oddi ar Wicipedia
Exminster
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Teignbridge
Daearyddiaeth
SirDyfnaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.6776°N 3.4945°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003208 Edit this on Wikidata
Cod OSSX9441687563 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, ydy Exminster.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Teignbridge. Saif 6 km (3.7 mill) i'r de o ddinas Exeter, ar lan orllewinol Afon Exe.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd poblogaeth y pentref yn 3,368.[2] Ganwyd William Courtenay, yn Exminster, gŵr a fu'n Archesgob Caergaint o 1381 i 1396.[3]

Mae'n hen bentref gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn yr Oesoedd Canol, fel y tystia Eglwys Sant Martin, a sefydlwyd yn yr 8g.[4] Yma hefyd oedd cartref ieirll Dyfnaint yn y 14g.

Ychydig i'r dwyrain, ceir corsydd Exminster Marshes, sy'n safle arbennig iawn i adar, yn enwedig rhai mudol[5] e.e. Bras Ffrainc (Emberiza cirlus).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 27 Mawrth 2020
  2. "Exminster population 2011". Cyrchwyd 18 Chwefror 2015.
  3. http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=50577
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-07. Cyrchwyd 2016-10-19.
  5. BBC Devon. Adalwyd 18 Mai 2007
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.