Eton

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eton, Berkshire)
Eton
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
Daearyddiaeth
SirBerkshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4881°N 0.6092°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04001217 Edit this on Wikidata
Cod OSSU965775 Edit this on Wikidata
Cod postSL4 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Eton.[1] Saif ar lan Afon Tafwys gyferbyn a Windsor, ac yn cysylltu ag e gyda Phont Windsor. Mae'n gorwedd o fewn hen ffiniau Swydd Buckingham ond daeth yn rhan o Berkshire yn 1974. Ers 1998, mae'n ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,692.[2]

Mae Caerdydd 178 km i ffwrdd o Eton ac mae Llundain yn 35.2 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas San Steffan sy'n 33 km i ffwrdd.

Mae'r dref yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad Coleg Eton, ysgol fonedd enwog. Yn Eton y ganwyd George E. Davis, un o sefydlwyr Peirianeg Cemegol.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Daw'r enw 'Eton' o'r Hen Saesneg Ēa-tūn, = Tref-Afon, h.y. Tref ar Afon Tafwys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 16 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 16 Gorffennaf 2020

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Berkshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato