Map o ganlyniadau'r etholiad. Coch: Romney a Ryan. Glas: Obama a Biden. Nifer canlyniadau'r cynrychiolwyr yw'r rhifau; po fwyaf y boblogaeth, mwyaf yw'r nifer o gynrychiolwyr sydd gan y Dalaith.
Cafwyd tair dadl arlywyddol rhwng Obama a Romney, ac un ddadl is-arlywyddol rhwng Joe Biden, cydymgeisydd Obama, a Paul Ryan, cydymgeisydd Romney. Yn yr wythnos cyn yr etholiad, ymyrrodd Corwynt Sandy ar yr ymgyrch a gohiriodd Obama a Romney rhai digwyddiadau.[7] Wrth nesáu at ddiwrnod yr etholiad roedd y canlyniad yn rhy agos i ragfynegi ac yn ddibynnol ar naw talaith allweddol, ond yn ôl nifer o bolau piniwn roedd Obama ar y blaen o drwch blewyn.[8]
Cafodd Obama ei ail-ethol wedi iddo sicrhau 270 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol.[9][10]Fflorida, un o'r taleithiau allweddol, oedd yr olaf i ddatgan canlyniadau ei phleidleisiau i'r Coleg Etholiadol ar 10 Tachwedd, a hynny o blaid Obama gan roi iddo gyfanswm o 332 o bleidleisiau'r Coleg o gymharu â 206 gan Romney. O ran y bleidlais boblogaidd, enillodd Obama 50% o'r bleidlais o gymharu â 49.1% gan Romney, mwyafrif o 74,000 o bleidleisiau.[11]