Ethnoganoledd
| Enghraifft o: | math o duedd, ymddygiad |
|---|---|
| Math | tuedd, elitiaeth |
| Y gwrthwyneb | cultural relativism |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02p2w |
| Quora | Ethnocentrism |
Agwedd meddwl, dull o drafod, neu ideoleg yw ethnoganoledd,[1] ethnoganoliaeth neu ethnosentrigrwydd[2] sydd yn trin diwylliannau grwpiau ethnig eraill drwy ffrâm gyfeirio diwylliant un ei hun. Defnyddir y term fel arfer yn ddifrïol, i ladd ar agweddau sydd yn rhagdybio, heb feirniadaeth, goruchafiaeth neu normadedd rhyw grŵp neu ddiwylliant penodol. Dadleuir bod y tueddfryd hwn yn seiliedig ar gred bod diwylliant un ei hun yn oruchaf ar ddiwylliannau eraill, ac felly mae arferion, ymddygiadau, credoau, a chynnyrch pobl un ei hun o safon uwch na'r rhelyw. Byddai safbwynt ethnoganolog yn yn ymdrin â diwylliannau estron ac yn eu barnu yn ôl safonau a disgwyliadau'r grŵp brodorol. Mae enghreifftiau yn cynnwys Ewroganoliaeth ac Affroganoliaeth.
Bathwyd y term Saesneg ethnocentrism gan W. G. Sumner yn ei gyfrol Folkways (1906).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ethnoganoledd Archifwyd 2021-06-24 yn y Peiriant Wayback", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 24 Mehefin 2021.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "ethnocentrism".