Etch A Sketch
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | tegan ![]() |
Crëwr | André Cassagnes ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1959 ![]() |
Gwefan | http://www.ohioart.com/brands/etch-sketch ![]() |
![]() |
Tegan yw'r Etch A Sketch (Ffrangeg: écran magique neu ardoise magique) a ddyfeisiwyd gan André Cassagnes. Mae'n galluogi'r defnyddiwr i dynnu lluniau ar sgrin.
Ceir haen o bowdr alwminiwm mân o dan y sgrin, a thrwy troi'r nobiau gellir symud nodwydd o dan y sgrin gan grafu llinellau trwy'r powdr. I ddileu'r llun, mae'r defnyddiwr yn ysgwyd y tegan i ailorchuddio'r sgrin â'r alwminiwm.[1]
Cafodd ei werthu'n gyntaf ym 1960 ac erbyn marwolaeth ei ddyfeisiwr yn 2013 roedd dros 100 miliwn o Etch A Sketches wedi eu gwerthu ar draws y byd.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Fox, Margalit (3 Chwefror 2013). André Cassagnes, Etch A Sketch Inventor, Is Dead at 86. The New York Times. Adalwyd ar 6 Chwefror 2013.