Erin Brockovich (ffilm)
Gwedd
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Steven Soderbergh |
| Cynhyrchydd | Danny DeVito Stacey Sher Michael Shamberg Gail Lyon John Hardy |
| Ysgrifennwr | Susannah Grant |
| Serennu | Julia Roberts Albert Finney Aaron Eckhart |
| Cerddoriaeth | Thomas Newman |
| Sinematograffeg | Ed Lachman |
| Golygydd | Anne V. Coates |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures Columbia Pictures |
| Amser rhedeg | 130 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae Erin Brockovich (2000) yn ffilm ddrama-ddogfen sy'n dramatieddio hanes brwydr gyntaf Erin Brockovich yn erbyn cwmni nwy ac olew enfawr o'r enw PG&E. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Steven Soderbergh a serennodd Julia Roberts fel y prif gymeriad. Enillodd Roberts Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes go iawn gwraig o'r enw Erin Brockovich a wnaeth ymddangosiad cameo yn y ffilm fel gweinyddes o'r enw Julia. Cyfansoddwyd y sgôr cerddorol wreiddiol gan Thomas Newman.
Cast
[golygu | golygu cod]- Julia Roberts fel Erin Brockovich
- Albert Finney fel Edward L. Masry
- Aaron Eckhart fel George
- Marg Helgenberger fel Donna Jensen
- Tracey Walter fel Charles Embry
- Peter Coyote fel Kurt Potter
- Cherry Jones fel Pamela Duncan
- Erin Brockovich-Ellis fel Julia, y weinyddes