Eric Ngalle Charles

Oddi ar Wicipedia
Eric Ngalle Charles
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
Camerŵn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, dramodydd Edit this on Wikidata
Eric Ngalle Charles yn stondin y cylchgrawn Planet yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018.

Llenor, bardd a dramodydd yw Eric Ngalle Charles (ganwyd 1979/1980). Mae'n enedigol o bentref Wovilla yn Buea, Camerŵn, ac wedi byw yng Nghymru ers iddo deithio yno fel ffoadur ym mis Gorffennaf 1999.[1] Roedd yn cael ei adnabod fel Mosre Mo Ngwa ('Ci y Wawr') ar ôl ei daid ar ochr ei fam tan iddo gael ei fedyddio yn 1980.[2]

Mae Charles ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi'i enwi yn un o'r 'Hay 30' - 30 o bobl ifanc a fydd yn helpu i siapio'r byd yn y tri degawd nesaf. Mae wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei waith ymchwil ar ymfudo, y cof a thrawma, ac mae wedi'i enwi gan Jackie Kay fel un o 10 awdur BAME gorau y Deyrnas Gyfunol. Ers ysgrifennu ei ddrama gyntaf My Mouth Brought Me Here, mae ei waith wedi'i berfformio yng Ngwyl y Gelli, Gwyl Llandeilo a'r London Southbank Centre.[3][4] Mae ei ffilm fer Eric Ngalle: This is not a Poem wedi teithio trwy wledydd Prydain a chyhoeddwyd ei hunangofiant I, Eric Ngalle: One Man's Journey Crossing Continents from Africa to Europe yn 2019.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Brilliant, Black and Welsh - Wales Online". Cyrchwyd Gorffennaf 22, 2020.
  2. "Gwefan Platforma". Cyrchwyd Gorffennaf 22, 2020.
  3. "Eric Ngalle Charles - Opera Cenedlaethol Cymru". Cyrchwyd Gorffennaf 22, 2020.
  4. "Eric Ngalle Charles - The National Centre for Writing". Cyrchwyd Gorffennaf 22, 2020.