Neidio i'r cynnwys

Enid Pierce Roberts

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Enid Roberts)
Enid Pierce Roberts
Ganwyd1917 Edit this on Wikidata
Llangadfan Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 2010 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgolhaig llenyddol Edit this on Wikidata

Awdur ac ysgolhaig Cymraeg oedd Enid Pierce Roberts (19179 Gorffennaf 2010). Roedd hi'n arbenigwraig ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16g.

Ganed hi yn Llangadfan yn yr hen Sir Drefaldwyn, ac aeth i Goleg Prifysgol Bangor, lle graddiodd yn 1938. Bu'n gweithio fel athrawes am gyfnod, cyn dod yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor yn 1946, lle bu hyd ei hymddeoliad yn 1978. Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o'r Eglwys yng Nghymru.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • (golygydd) Detholion o Hunangofiant Gweirydd ap Rhys (1949)
  • Braslun o Hanes Llên Powys (Gwasg Gee, 1965)
  • (golygydd) Gwaith Sion Tudur (2 gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
  • Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
  • William Morgan a'r Beibl Cymraeg
  • Seintiau Cymru (gyda G.J. Roberts)
  • A'u Bryd ar Ynys Enlli (Gwasg y Lolfa)