Emyr Oernant

Oddi ar Wicipedia
Emyr Oernant
Ganwyd1 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata

Ffermwr a bardd o Gymro oedd Emyr Jones (1 Ebrill 193216 Ebrill 2018) a adwaenid fel Emyr Oernant.[1]

Cafodd ei fagu yn Llwyncelyn ger Aberaeron cyn i'w deulu symud i fferm Oernant ar gyrion Aberteifi, pan oedd yn ei arddegau. Bu'n ffermio yno gyda'i fab Richard hyd ei farwolaeth.[2]

Mynychodd ddosbarthiadau cerdd dafod T. Llew Jones. Un o'i gyd-aelodau yn y gwersi yn yr 1980au oedd Ceri Wyn Jones, a ddywedodd amdano "…mi synhwyrais yn syth fod hwn yn ddyn ffraeth a galluog, a chanddo ffordd wreiddiol – a digyfaddawd – o fynd at ei bethau,".[3]

Daeth yn enw cyfarwydd fel aelod o dîm Tan-y-groes – un o dimau gwreiddiol cyfres radio Talwrn y Beirdd ddiwedd y 1970au. Ymfalchiodd fod ei dîm wedi dod yn Bencampwyr y Talwrn yn 1997.[4]

Roedd yn briod a Mary Emily Jones a fu farw yn 76 mlwydd oed ar 4 Medi 2010. Roedd ganddynt ddau o blant, Elin a Richard.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Tanygroes v Y Glêr. BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 18 Ebrill 2018.
  2. Y bardd Emyr Oernant Jones wedi marw'n 86 oed , BBC Cymru Fyw, 18 Ebrill 2018.
  3. Meuryn y Talwrn yn cofio “cymeriad unigryw” , Golwg360, 18 Ebrill 2018.
  4. Marw’r bardd a’r ffermwr, Emyr Oernant , Golwg360, 18 Ebrill 2018.
  5.  MARY JONES : Obituary. Media Wales (8 Medi 2010). Adalwyd ar 18 Ebrill 2018.