Ellis Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia

Ganwyd Ellis Cadwaladr yn Llandderfel, sir Feirionnydd, a bu'n cartrefu yn yr Hafod Uchel. Yn y plwyf hwn y beddyddiwyd ei plant. Bardd oedd Ellis Cadwaladr (fl. 1707-1740), ac fe ganai yn y mesurau caeth ac yn y mesurau rhydd. Cafodd lwyddiant ar gystadleuaeth y gadair yn eisteddfod y Bala, Llungwyn, 1738, ac argraffwyd rhai o'i faledi yn ystod C18, e.e. Cerdd i ofyn Pár o Ddillad o Ródd Pendefig, Cerdd o barchedigaeth urddasol Watkin Williams Wynn, Ysw . Cyhoeddwyd y llyfr Blodeugerdd yn 1759 ac ynddo mae pedwar o'i gyfansoddiadau. Mae'n debygol iddo gael derbyn addysg dda, oherwydd yn ei gerddi eraill, megis 'Clod i Ferch', fe gynnwys nifer o enwau clasurol. Cedwir nifer sylweddol o'i gerddi mewn llawysgrifau, e.e. ceir tuag ugain ohonynt yn N.L.W. MS. 4971.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru, 1870;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9253;
  • J. H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads printed in the 18th century, 1908-11.
  • gwybodaeth gan Mr Evan Roberts, Llandderfel, o restrau'r plwyf.