Neidio i'r cynnwys

Ellie Simmonds

Oddi ar Wicipedia
Ellie Simmonds
Ganwyd11 Tachwedd 1994 Edit this on Wikidata
Glossop Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Prydain Fawr Prydain Fawr
Alma mater
Galwedigaethnofiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cyn-nofiwr Paralympaidd yw Eleanor May Simmonds, OBE (ganwyd 11 Tachwedd 1994,[1] Glossop, Swydd Derby).[2] Mae hi'n dal i ymddangos ar amrywiaeth o raglenni teledu, gan gynnwys fel sylwebydd nofio.

Rhoddwyd Simmonds i'w mabwysiadu pan oedd yn ddwy wythnos oed, ar ôl ei diagnosis o achondroplasia. Tyfodd hi lan yn ardal Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr.[2] Pan oedd 11 oed, symudodd ei theulu i Abertawe. Roedd angen i Simmonds defnyddio y Pwll Cenedlaethol Cymru yn y ddinas. Mynychodd Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Sgeti.[3]

Cystadlodd hi yng Ngemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 13 oed, yn Beijing yn Haf 2008. Enillodd hi ddwy fedal aur, gan ennill y digwyddiadau nofio dull rhydd 100m a 400m (categori S6).[1]

Daeth hi Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2009, y deiliad MBE ieuengaf erioed. Wedyn penodwyd Simmonds Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2013.[1]

Ymddeolodd o nofio cystadleuol yn 2021 .[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Mercer, David (25 Awst 2021). "Ellie Simmonds: Why swimmer 'hated' her sport and almost quit before aiming for medal glory at Tokyo Paralympics" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 Mayor, Rob; Rack, Susie (6 Gorffennaf 2023). "Ellie Simmonds' emotional search for birth mother" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
  3. Turner, Robin (25 Ebrill 2015). "Paralympic swimming champ Ellie Simmonds says Swansea will always have a special place in her heart". heraldscotland.com (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 8 Medi 2024.