Eglwys Groeg

Oddi ar Wicipedia
Tiriogaeth Eglwys Groeg (glas).

Cangen o'r Eglwys Uniongred Roegaidd yng Ngwlad Groeg yw Eglwys Groeg.

Hyd 1833, roedd yr eglwys yng Nghroeg yn rhan o Batriarchaeth Eciwmenaidd Caergystennin, ond yn y flwyddyn honno cyhoeddodd ei hun yn annibynnol. Derbyniwyd hyn gan Batriarchaeth Caergystennin yn 1850. Rhennir hi yn 77 esgobaeth, yn cynnwys Archesgobaeth Athen. Pen yr eglwys yw Archesgob Athen a holl Roeg, ar hyn o bryd Hieronymus II. Mae gan yr eglwys tua 9 miliwn o aelodau.

Mae Creta, y Dodecanese a Mynydd Athos yn parhau i fod dan awdurdod Patriarch Caergystennin, ac nid ydynt yn rhan o Eglwys Groeg.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.