Ecchi
Slang yn yr iaith Japaneg ydy Ecchi (エッチ etchi, pronounced ynganiad: [[et.tɕi]]) am ffantasi erotig ac awgrymiadau rhywiol. Fel ansoddair mae'n golygu "budur", "drwg" neu "fochaidd"; fel adferf (ecchi suru) mae'n golygu gwneud rhywbeth drwg neu anweddus fel cysgu efo rhywun; fel enw mae'n golygu person sy'n cael ei ystyried yn ecchi. Mae'n air tebyg i ero, ond nid mor galed a hentai.
Does dim golygfeydd o gyfathrach rywiol mewn ecchi, ond mae llawer o luniau 'meddal' e.e. o nicyrs merched.
Mae ecchi reit boblogaidd mewn manga Shōnen, manga Seinen ac anime harem.
Yn yr 1960au, roedd y gair yn golygu "rhyw" yn yr ystyr cyffredinol, ond erbyn 1965, roedd hyd yn oed plant oed cynradd yn defnyddio'r gair etchi kotoba am "rhywiol". Yn y 1980au roedd yn golygu caru (etchi suru) (to [make] love).[1][2] Mae debygol i'r gair darddu o symbol cyntaf y gair hentai (変態),[3]