Seinen manga

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Manga Seinen)
Clawr Tenjho Tenge; enghraifft o mango seinen

Mae Seinen manga (青年漫画) yn fath o fanga sydd wedi ei anelu at oedolion 18–30 oed neu hŷn. Mae'r gair Japaneg Seinen yn golygu "dyn ifanc" neu "ddynion ifanc" ac yn air "glân", heb oblygiadau rhywiol iddo. Mae manga tebyg i'r math hwn hefyd ar gael i ferched - josei manga.

Gan fod y pwyslais ar y cymeriadau ac ar stori dda, yn hytrach na'r gweithredu, mae rhai pobl yn camgymryd y math yma gan feddwl mai shōjo neu fanga i ferched ydy o. Weithiau mae yna elfennau pornograffig ynddo hefyd e.e. Chobits, a Chi's Sweet Home, neu ddrama seinen fel Twin Spica.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Tenjho Tenge, Akira, Monster, Gantz, 20th Century Boys, Code Geass, Berserk, Battle Royale, Blame!, Vagabond, Ghost in the Shell, Hellsing, Black Lagoon, Ikigami, Elfen Lied, Another, Battle Angel Alita, Zetman a Drifters

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]