Dwmbwr-dambar
Gwedd
Math | Reid ffair |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Reid ffair yw dwmbwr-dambar (lluosog: dwmbwr-dambars)[1] gyda llithren sy'n troelli o gwmpas tŵr. Mae reidwyr yn esgyn grisiau y tu mewn i'r tŵr ac yn llithro o ben y dwmbwr-dambar i'r gwaelod ar sach neu fat, a wneir yn aml o hesian neu ddefnydd tebyg.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Ceir y cofnod archifiedig cynharaf o'r gair dwmbwr-dambar o 1815, o bosib o'r Saesneg, tumble ac yn fath o ymadrodd dynwaredol.[2]
Lleoliadau dwmbwr-dambar Cymru
[golygu | golygu cod]Ceir sawl dwmbr-dambar ar draws Cymru, fel rheol mewn Ffeiriau ac yn aml dros dro, er enghraifft, mewn Ffair Aeaf neu Sioe Amaethyddol.
Ceir Dwmbwr-dambar sefydlog yn atyniad hwyl ac anifeiliaid Folly Farm ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [helter-skelter].
- ↑ dwmbwr-dambar. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.