Duirinish

Oddi ar Wicipedia
Duirinish
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.318618°N 5.679596°W Edit this on Wikidata
Cod OSNG785315 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Duirinish[1] (Gaeleg yr Alban: Diùranais).[2] Saif rhwng Kyle of Lochalsh a Plockton yn Ucheldir yr Alban.

Mae nant, Allt Dhuirinish, yn llifo trwy’r pentref. ffermwyd y tir o gwmpas y pentref fel un fferm hyd at 1802, pan grewyd comuned grofftio; rhannwyd 50 acer o dir llafur a dros 750 acer o dir comin rhwng 6 teulu. Rhannwyd y tir eto’n hwyrach, er mwyn rhoi bywoliaeth i fwy o deulioedd. Erbyn 1891, poblogaeth y pentref oedd 107. Cyrhaeddodd y rheilffordd ym 1897, a ffynnodd y pentref am gyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn hyn mae poblogaeth y pentref tua 20.[3] Mae'r pentref yn ndedig am y nifer o ygsuboriau; mae gan bob tŷ o leiaf un ohonynt.[4]

Mae enw Gaeleg y pentref, Diùranais, yn dod o wraidd Norwyeg, ac yn golygu "penrhyn y ceirw".[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]