Drumconrath

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyn-eglwys Anglicanaidd yn Nrumconrath

Drumconrath neu Drumcondra (yn hanesyddol Drumconra, o'r Wyddeleg Droim Conrach sef "Crib Conrach")[1] yn pentref hanesyddol wedi'i leoli yng ngogledd Sir Meath/an Mhí, Iwerddon. Mae'r plwyf ei hun yn ffinio â Sir Louth/Contae Lú ac mae hefyd yn agos i'r ffîn rhwng Siroedd Monaghan/Contae Mhuineacháin a Cavan/Contae an Chabháin.

Poblogaeth y plwyf yw o 2,967 tra bod i'r pentref ei hun 405 o bobl. Mae i'r plwyf arwynebedd o 7,566 erw (30.62 km2).

Bu anheddiad yma ers cyn 200CC gyda thystiolaeth o lwybrau hynafol a chylchgaerau (ringforts) yn Corstown a Drumsilagh. Digwyddodd  Brwydr  Ballyhoe (1539OC) rhwng y O'Neills â'r Saeson[2]  gerllaw ac yn ôl llên gwerin taflwyd trysor i mewn i'r llyn yn ystod y frwydr a phan ddaw gwir Wyddel ar geffyl gwyn draw, fe blymir  fewn i'r ellyn ac ailafael yn y trysor.

Rhyddhawyd ffilm newydd yn ddiweddar a ffilmwyd o gwmpas ardal Drumconrath. Enw'r ffilm yw "The Wild Goose Lodge" ac mae llawer o bobl leol yn actio ynddo.  http://www.imdb.com/title/tt4985692/

Delwedd:Picture of poster.jpg
poster ar gyfer y ffilm.

Roedd Drumconrath yn llythrennol yr anheddle cyntaf Gaeleg "Tu Hwnt I'r Pâl" o adael y Pâl o Ardee/Baile Átha Fhirdhia. Roedd yn le elyniaethus i'r Saeson a adawodd ddiogelwch y Pâl ac fe fu nifer o frwydrau yn y pentref.

Mae olion mynachlog ar Church Hill yn edrych tros Llyn Braken, fe'i dinistrwyd gan Harri'r Vlllfed/Henry VIII a'i Ddeddf Diddymiad y Mynachlogydd. Yma, mae golygfa tuag at Mynyddoedd Mourne/na Beanna Boirche mewn un cyfeiriad a Mynyddoedd Dulyn y'w gwled yn glir yn y cyfeiriad arall.

Yn ystod gwrthryfel 1798, lladwyd pump o blwyfion gan filisia Sir Louth/Contae Lú am wrthod caniatáu iddynt gael mynediad at yr Eglwys yn y pentref. Roedd gan yr ardal gefnogaeth cryf gan y  Ribbonmen  (rhagflaenydd yr Irish Republican Army) ac fe grogwyd chwech o ddynion o'r ardal am eu rhan yn y llosgi o'r Wildgoose Lodge Murders gerllaw.[3] Cadwodd y pentref at ei ddelfrydau Weriniaethol a bu llawer o ddynion lleol yn ymladd yn y Rhyfel y Tan â'r Rhyfel Cartref a'r Frigâd Kingscourt gerllaw, gyda theuluoedd yr Hickeys â'r Keenans yn chwarae rhannau amlwg yn yr ymladd. Yn wir, mae cofnod mai'r  Frigâd a daniodd yr ergyd olaf yn Rhyfel y Tan ar 11:20 o Fehefin yr 11fed 1921, ugain munud ar ôl y cadoediad.[4]

Wedi ei leoli mewn cefn gwlad drymlinnol ac wedi ei amgylchynu gan lynnoedd bach, mae Drumconrath yn enwog am ei ardaloedd cerdded darluniadwy. Lleolir Llyn Braken, a llynnoedd llai Corstown a Balrath, hefyd ceir yr Afon Dee/An Níth yn yr ardal yma. 

Delwedd:Front of bar muldoons.jpg
Tu blaen tafarn Muldoons
Delwedd:Picture of stove inside bar.jpg
Stof tu fewn i dafarn Muldoons

Mae'r pentref yn cynnig llawer o wasanaethau, gan gynnwys meddyg teulu, swyddfa bost, salon trin gwallt, fferyllfa, cigydd, ysgol gynradd, siop groser a G&B o fewn hen siop. Mae tair ystâd tai yn ffinio'r pentref, Parc De Valera ar y Ffordd i Nobber/Obair a Hillside View ar y ffordd i Carrickmacross/Carraig Mhachaire Rois a phedwar o dai ar ffordd Nobber/Obair i Drumconrath  sydd nawr wedi ei ail-adeiladu yn dilyn amser o ddiffeithiwch. Adeiladwyd y blaenorol yn y 1970au, a'r mwayf diweddar yn ystod y cyfnod o ffyniant economig dweuthaf. Mae bywyd nos y pentref yn canoli ar dair tafarn y pentref, Y Thatch, Fay's a Muldoon's lle mae ystafell weithredol ar gyfer dathliadau a phartïon. Mae canolfan gymunedol fawr yn y pentref lle cynhelir bingo a gweithgareddau eraill sydd yn aml â phresenoldeb cyson, a chwrs 'pitch & putt' yn y cefn.

Mae dwy eglwys yn y pentref,  Sant Pedr (Eglwys Anglicannaidd Iwerddon) yn awr ar gau, a Sant Pedr a Paul, Eglwys Gatholig. Mae rhai  beddau o amgylch Sant Pedr sydd erbyn hyn wedi eu gadael yn wyllt, ond mae i'r  pentref ddwy fynwent arall,  un Babyddol ag un Brotestannaidd ar Ffordd Ardee/Baile Átha Fhirdhia.

Mae tîm "Drumconrath" o'r GAA  Gaelic Athletic Association/ CLG Cumann Lúthchleas Gael yn y Wyddeleg, yn chwarae ar faes lleol y GAA/CLG ar Ffordd Navan/Uaimh.  Oherwydd diffyg chwaraewyr yn yr oedrannau iau, mae'r tîm yn recriwtio chwaraewyr o blwyf cyfagos Meath-Hill  i ffurfio tîm "Drumconrath-Meath-Hill"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Placenames Database of Ireland (see archival records)
  2. reepages.genealogy.rootsweb.ancestry.com/~callahan/part3.htm
  3. "Archived copy". Archifwyd o y gwreiddiol ar 19 February 2013. https://web.archive.org/web/20130219072943/http://www.fourcourtspress.ie:80/product.php?intProductID=772. Adalwyd 2012-01-05.
  4. The Royal Irish Constabulary and the Black and Tans in County Louth 1919-1922 / Stephen O'Donnell