Drew Henry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Drew Henry
Ganwyd 24 Tachwedd 1968 Edit this on Wikidata
Hamaltan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr snwcer Edit this on Wikidata

Mae Drew Henry (a anwyd ar 24 Tachwedd 1968)[1] yn chwaraewr snwcer proffesiynol o'r Alban, a dreuliodd bum tymor o'i yrfa yn y 32 uchaf o'r safleoedd, gan gyrraedd # 18. Fe'i ganwyd yn Cambuslang, yr Alban.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Trodd Henry'n broffesiynol ym 1991. Cymhwysodd am y tro cyntaf am Bencampwriaeth Snwcer y Byd ym 1994, gan golli o 10-9 yn y rownd gyntaf i John Parrott. Yn 1996 cyrhaeddodd Henry rownd gyntaf y twrnament unwaith eto, gan golli i Darren Morgan, gan gyrraedd rownd y cwarteri olaf ym Mhencampwriaeth Agored Cymru, am y tro cyntaf.[2]

Cyrhaeddodd ail rownd Pencampwriaethau'r Byd ddwywaith, yn 2000 a 2003, gan guro Mark King yn y rownd gyntaf ar y ddau achlysur; daeth yr ail fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth y Byd, a gafodd ei dyfarnu am y tro cyntaf gan fenyw, Michaela Tabb.[3]

Mae wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol mewn tair pencampwriaeth o bwys, y mwyaf ohonynt ym Mhencampwriaeth y DU 2002, lle y trechodd Ronnie O'Sullivan o 9-6 yn y rowndiau cwarteri-olaf.[4] Gwnaeth ei ymddangosiad yn y rownd gyn-derfynol am y tro cyntaf y flwyddyn cynt ym Mhencampwriaeth Agored Tseina, perfformiad a welodd ei safle yn y byd yn cynyddu i'w safle uchaf o # 18.

Gadawodd Henry y daith broffesiynol ar ôl colli o 5-1 i Ian McCulloch yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Agored Cymru 2008.

Enillion Twrnamentau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillion Di-Radd: (1)[golygu | golygu cod y dudalen]

  • WPBSA Minor Tour, Event 6 - 1995

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]