Draw Dros y Mynydd (albwm)
Gwedd
| Draw Dros y Mynydd | ||
|---|---|---|
| Albwm stiwdio gan Cowbois Rhos Botwnnog | ||
| Rhyddhawyd | Gorffennaf 2012 | |
| Label | Sbrigyn Ymborth | |
Trydydd albwm y grŵp Cowbois Rhos Botwnnog yw Draw Dros y Mynydd. Rhyddhawyd yr albwm yng Ngorffennaf 2012 ar y label Sbrigyn Ymborth.
Mae sŵn Draw Dros y Mynydd yn barhad, neu ddatblygiad o sŵn yr albwm diwethaf, yn sŵn llawer mwy aeddfed na Dawns y Trychfilod (2007). Mae'r traciau yn cynnwys ‘Yno Fydda i’, ‘Llanw Ucha’ Erioed’ a ‘Cyn Iddi Fynd Rhy Hwyr’.
Dewiswyd Draw Dros y Mynydd yn albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog. Y cwestiwn ydi, lle fyddan nhw’n mynd nesa?
—Ciron Gruffydd, Y Selar