Dragonfall

Oddi ar Wicipedia

Aelodau[golygu | golygu cod]

Helen Davies - Llais & Synth

Robert Davies - Prif Gitar & Chefnlais

Angharad Rhiannon Davies - Synth, Ffidl & Chefnlais

Paul Williams - Bâs

Matt Davies - Drymiau

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd Dragonfall fel band o'r enw Fragile Earth yn Aberdâr yn Ne Cymru. Fe ymunodd Steve Jones ar fas â Rob a Helen ac fe gawson nhw lwyddiant lleol. O'r dechrau chwaraeon nhw gymysg o ganeuon gwreiddiol a "covers" anarferol. Roedd slot rheolaidd gyda nhw yn yr Aberdare Social Club (nawr The Marquis) ble roedd y lle yn dan ei sang pan oedden nhw'n chwarae. Gadawodd Steve i ymuno â Quest - band covers lleol.

Fe benderfynodd Fragile Earth newid ei delwydd fel “Aberdare’s Premier Folk Band” (Aberdare Leader). Fe ymunodd Simon Jones ar fâs a Pete Cowan ar ddrymiau ac fe ddaethon nhw yn llai werinol, cyflymach ac yn jazi. Roedd y canlyniad yn addawol iawn, ond jest pan oedd pethau yn edrych yn dda gadawodd Simon a Pete i fynd i'r coleg.

Fe ymunodd Gareth Preest ar gitar ac fe gafodd y 'lineup' peth lwyddiant yn y gymraeg o dan yr enw Gobaith - tra bod nhw'n chwarae yn Saesneg fel Fragile Earth. Fe arafodd y band i gigiau nawr ac yn y man yn Gymraeg ac yn Saesneg, tra bod Helen yn astudio am radd. O bryd i'w gilydd roedd Angharad Rhiannon Davies yn chwarae'r ffidil gyda'r band. Ymunodd Steve Alcock ar fâs nes bod ei gwaith wedi ei orfodi symud i le arall. Ac yn sydyn doedd 'na ddim band.

Newidiwyd enw’r band i Fragile. Ar ôl cymaint o newidiadau bersonel roedd yr enw yn briodol!

Fe aeth Rob a Helen mewn i'r stwdio Big Noise yng Nghaerdydd gyda John Pulman (Bâs) a Greg Haver (Drymiau) fel cerddor sesiwn. O ganlyniad daeth demo 3 trac o’r enwau March Blue Eyes, Coming Home a Forever. Fe gafodd y dâp adolygiadau da yn Making Music a Bandiau Wythnosol Cymreig.

Yn sgîl y demo gawson nhw wahoddiad i berffomio ar y teledu. Roedd hi'n bryd i ailffurfio'r band. Fe ailymunodd Gareth ar gitar a Pete ar fâs. Oherwydd doedd dim digon a amser i ddod o hyd i aelodau parhaol perfformiodd cerddor sesiwn Lee Nicholas (drymiau) a Mike Roberts (synth) ar y teledu.

Ar ôl y gig aethon nhw yn ôl i'r stwdio recordio i orffen yr albwm. Fe ymunodd Angharad Rhiannon Davies fel cefnlais a Greg unwaith eto ar ddrymiau.

Daeth hi'n amlwg bod nifer o fandiau yn defnyddio'r enw Fragile, felly roedd angen newid eto! Yr tro yma roedd angen toriad llwyr a chafodd Dragonfall ei eni. Fe eisteddodd yr enw newydd yn well gyda'r swn celtaidd.

Cynlluniwyd y logo gan frawd Rob, Stephen Davies. Cynhyrchiwyd y gwaith celf ar gyfer y CDs, posteri, safle we ac ati gan Rob.

Fe gymerodd Angharad Rhiannon Davies drosodd ar y synth a chafodd y lineup ei offen gan gyrheaddiad Elliot Bennet ar ddrymiau. Fe drefnodd y band gigs yn ogystal â sesiynau radio ac ymddangosiadau teledu. Er gwaethaf diffyg arian a hysbysebu roedd gwerthiant y sengl ac albwm yn gefnogol ac roedd yr ymateb cyffredinol yn wych.

Ac yna aeth popeth i'r chwith. Fe gafodd Helen ei ruthro mewn i'r ysbyty am lawdrinaeth frys a oedd angen o leia 6 mis o gyfnod cryfhau. Yn ystod y cyfnod gwrthodwyd y byd i beidio troi. Fe aeth Pete i ochr arall y byd (Leeds). Fe benderfynnodd Gareth ganolbwyntio ar ei swydd dyddiol. Roedd Elliot yn gweithio'n fwy gyda bandiau eraill. Roedd y band i lawr i dri ac Elliot yn rhan amser.

Gyda Helen wedi gwella 90% rhyddheuiwyd sengl arall. Roedd yr ymateb yn wych ond doedd y band ddim yn gallu ymateb i wahoddiadau i berfformio ar y teledu, radio a pherfformio'n fyw ar wyliau. Fe wnaethon ychydig o berfformiadau acwstig a dechreuon ni chwilio am line-up newyd o ddifri.

2000[golygu | golygu cod]

Ionawr - Yn dilyn toriad bychan dechreuon nhw eto. Roedd gig cyntaf y line-up newydd â'r gig wedi gwerthu mas yn y theatr Coliseum Aberdâr Ionawr 8 2000. Yr aelodau newydd oedd Steve Jones (bâs) a Steve Chandler (drymiau). Roedd Steve Jones yn chwarae gyda Rob a Helen yn "Fragile Earth" ac yn hen ffrind.

Ebrill - fe benderfynodd Steve Chandler i adael y band i ganolbwyntio ar ei fusnes.

Mai - Recordiwyd traciau newydd gan gynnwys "In The Valley". Ymunwyd Greg Haver eto ar gyfer recordio a pherfformiadau byw.

Medi - Recordiwyd sengl "Yn Y Cymoedd" gyda fersiwn newydd o "Cochyn Tal". Dafydd Du, BBC Radio Cymru, oedd y person cyntaf i chwarae "Yn Y Cymoedd". Aeth y sengl ymlaen i gael ei chwarae ar Sain Abertawe, Radio Ceredigion, Radio Maldwyn, Champion FM, Marcher FM,Coast FM.

Tachwedd - Ymddangosodd y band ar "Heno" ar deledu S4C yn perfformio'r sengl.

Rhagfyr - Recordiwyd caneuon "Dolig Dulyn / Hydref Y Ddraig" gyda geiriau gan yr enwog Cleif Harpwood o "Edward H. Dafis". Er bod y band yn ffans mawr Edward H roedd gweithio gyda Cleif yn bleser pur. Lawnswyd y sengl yng Nghlwb Y Bont, Pontypridd.

2001[golygu | golygu cod]

Ionawr - Frank Connor-Hughes yn ymuno â’r band. Chwareuwyd gig gyda'r Strymdingars ym Mhontypridd.

Haf - Chwareuwyd ym Mharti Ponty a Sesiwn Fawr Dolgellau

Medi – Gorffenwyd yr albwm gyda Greg Haver yn stiwdio Loco ger Brynbuga. Rhoddwyd gytunteb am albwm newydd gan label Sain.

Tachwedd – Rhyddhawyd CD "Natur Bywyd". Aeth yr CD mewn i siart cytgord yn rhif 18! Record yr wythnos ar Radio Cymru.

2002[golygu | golygu cod]

Sesiwn Fawr. Rhaglen Nadolig Noson Lawen. Gadawodd Steve Jones am resymau teuluol. Paul Williams yn ymuno ac yn dysgu'r set cyfan mewn pythefnos ar gyfer Sesiwn Fawr. Frank yn gadael. Mae'r band heb ddrymwr eto.

2003[golygu | golygu cod]

Matt Davies yn ymuno fel drymwr. Y band yn ailgychwyn gyda gig ar gyfer Plant Mewn Angen. Roedd y band yn gigio ond gan fod Angharad Rhiannon Davies yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol doedd dim llawer o amser gyda nhw.

2004[golygu | golygu cod]

Gig yn "Callaghans" yng Nghaerdydd. Gig yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd. Y band yn cael cynnig chwarae yn Sir Efrog Newydd ond yn methu cael visa mewn pryd. Angharad Rhiannon Davies yn graddio (2.1 - Clefar clogs). Helen yn ymddangos ar raglen BBC3 "End of Story" 7/11/04. Ddaeth yn ail mewn cystadleuath ym mhlith miloedd. Dragonfall yn 'Band Yr Wythnos' ar Valleys Radio ar 'sesiwn yr hwyr' o 29/11/04 ymlaen.

2005[golygu | golygu cod]

Gwyl Cwlwm Celtaid; Gwyl Celtaidd Caerdydd (yn y Ganolfan Milenium); Gwyl Pontardawe; Gwyl Merthyr.

2006[golygu | golygu cod]

Dragonfall yn rhyddhau ei drydydd albym ar raglen Jonsi BBC Radio Cymru.

Cyn-aelodau[golygu | golygu cod]

Steve Jones - Bâs

Frank Connor-Hughes - Drymiau

John Pulman - Bâs ar yr albwm cyntaf

Greg Haver - Drymiau, cynhyrchydd, peirianydd

Gareth Preest - Gitar Rhythm ar yr albwm cyntaf

Peter Cowan - Bâs ar yr albwm cyntaf

Steve Chandler - Drymiau

Elliot Bennet - Drymiau'n fyw

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Wefan Dragonfall.[1]

Facebook Dragonfall.[2]

  1. Wefan Dragonfall
  2. Facebook Dragonfall