Dol matryoshka

Oddi ar Wicipedia
Dol matryoshka
Mathdoll, cultural icon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y set matryoshka gwreiddiol a grëwyd gan Zvyozdochkin a Malyutin, 1892

Set o ddoliau pren sy'n lleihau yn eu maint ac yn cael eu gosod o fewn i'w gilydd yw doliau matryoshka (hefyd doliau Rwsiaidd). Mae'r enw matryoshka (матрёшка), yn llythrennol "gwraig fach", yn ffurf fachigol o'r enw benywaidd Rwsiaidd Matryona (Матрёна) neu Matriosha.[1]

Mae set matryoshka yn cynnwys ffigur pren, sy'n gwahanu, o'r top o'r gwaelod, i ddatgelu ffigur llai o'r un math y tu mewn, sydd, yn ei dro, ffigur arall y tu mewn iddo, ac yn y blaen.

Cafodd y set gyntaf o doliau Rwsiaidd ei gwneud ym 1890 gan Vasily Zvyozdochkin o ddyluniad gan Sergey Malyutin, a oedd yn arlunydd crefftau gwerin yn Abramtsevo, Oblast Moscfa. Yn draddodiadol, menyw yw'r haen allanol, wedi'i gwisgo mewn sarafan, gwisg siwmper werin draddodiadol o Rwsia. Gallai'r ffigurau y tu mewn iddynt fod o'r naill ryw neu'r llall; mae'r ddol leiaf, fewnol fel arfer yn fabi wedi'i droi o un darn o bren. Mae llawer o'r grefft yn y gwaith o beintio'r doliau. Mae'r doliau yn aml yn dilyn thema; gall y themâu amrywio, o gymeriadau straeon tylwyth teg i arweinwyr Sofietaidd. Yn y Gorllewin, mae doliau matryoshka yn aml cael eu camenwi fel "doliau babushka",[2]; mae babushka yn golygu "mam-gu" neu "hen wraig".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]