Docklands Llundain
Gwedd
| Math | glannau, ardal o Lundain |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.505°N 0.0181°W |
![]() | |
Ardal yn nwyrain Llundain ar hyd glannau Afon Tafwys yw Docklands Llundain. Fe'i lleolir mewn rhannau o fwrdeistrefi Southwark, Tower Hamlets, Lewisham, Newham, a Greenwich. Arferai'r dociau yn yr ardal hon fod yn rhan o Borthladd Llundain, sef porthladd mwyaf y byd ar un adeg. Ar ôl i'r dociau gau, roedd yr ardal wedi mynd yn adfail ac yn dlawd erbyn yr 1980au. Dechreuodd adfywiad yr ardal yn ddiweddarach y ddegawd honno; mae wedi'i ailddatblygu'n bennaf ar gyfer defnydd masnachol a phreswyl. Mae'n cynnwys y datblygiad newydd Canary Wharf ar Ynys Cŵn (Isle of Dogs), sy'n ganolfan ariannol o bwys bellach. Bu datblygiad Rheilffordd Ysgafn Docklands yn gam pwysig i hybu adfywiad economaidd yr ardal.

