Dilema

Oddi ar Wicipedia

Problem neu gyfyng-gyngor sy'n cynnig dau ddewis ac nid yr un ohonynt yn ddymunol yw dilema.[1] Yn rhesymeg, ffurf ar y casgliad yw'r dilema sy'n cynnwys dau brif ragosodiad tybiedig ac un is-ragosodiad digysylltiol. Yn ôl iaith symbolaidd rhesymeg, ffurf dadl y dilema yw: A ⊃ C, B ⊃ C, A ∨ B, felly C.[2]

Defnyddir y term yn rhethregol i ddisgrifio sefyllfa nad yw'n caniatáu dewis ond rhwng dau ddrwg, ac ymddangosir yr ystyr hon mewn amryw o feysydd yn enwedig yng nghyd-destun damcaniaeth gemau a moeseg.[3] Fel techneg lenyddol, gosodir dilema i nodi brwydr foesol y cymeriad: mae'n rhaid iddo ddewis rhwng y da a'r drwg, ond gall ganlyniadau'r dewis drwg fod yn ddymunol neu ganlyniadau'r dewis da fod yn annymunol.[4] Ymresymiad gwallus yw'r ffug-ddilema, sy'n awgrymu deuoliaeth lle nad oes un yn bod ac yn anwybyddu posibiliadau eraill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  dilema. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) dilemma (logic). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) "Moral Dilemmas" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  4. (Saesneg) Dilemma ar wefan literarydevices.net. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.