Dere Mewn (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Dere Mewn
Albwm stiwdio gan Colorama
Rhyddhawyd Tachwedd 2014

Albwm gan y grŵp Colorama yw Dere Mewn. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2014.

Ers i'r anthem fodern o faled 'Dere Mewn' ymddangos ar y cryno albwm Magic Lantern Show yn 2009, mae Carwyn Ellis a Colorama wedi rhyddhau nifer o draciau Cymraeg blith draphlith, gyda rhai caneuon Saesneg ar eu recordiau amrywiol. Penderfynwyd rhyddhau casgliad llawn o’r traciau Cymraeg hynny ar ddiwedd 2014.

Dewiswyd Dere Mewn yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae pob cân yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw, dyma gasgliad y gellir gwrando arno ar hyd y flwyddyn

—Ifan Prys, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]