Demetrio e Polibio

Oddi ar Wicipedia
Demetrio e Polibio
Wynebdalen y Libereto (1817)
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
GenreOpera seria, opera Edit this on Wikidata
LibretyddVincenza Viganò-Mombelli Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTeatro Valle Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af18 Mai 1812 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGioachino Rossini Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Demetrio e Polibio; Demetriws a Polybiws) yn opera dramma serio mewn dwy act gan Gioachino Rossini i libretto gan Vincenzina Viganò-Mombelli. Trefnwyd yr opera ar gyfer offerynnau tannau yn unig.[1]

Demetrio e Polibio oedd ymgais gyntaf Rossini i gyfansoddi opera ar raddfa lawn, "a chafodd ei gynllunio mewn modd tameidiog" [2] ystod ei ddyddiau fel myfyriwr yn Academi Ffilharmonig Bologna ym 1806. Gan iddo gael ei gomisiynu gan y tenor Domenico Mombelli (ysgrifennodd ei wraig y libreto) fe’i perfformiwyd yn breifat gan Mombelli a’i ddwy ferch, perfformiad na fynychodd Rossini, nid hwn oedd ei opera gyntaf wedi’i llwyfannu’n llawn.[3]

Ni chafodd yr opera ei llwyfannu'n broffesiynol tan 18 Mai 1812, pan berfformiodd am y tro cyntaf yn y Teatro Valle yn Rhufain.[2]

Rolau[golygu | golygu cod]

Rôl Math o lais Cast y Premier, 18 Mai 1812 [3](Arweinydd: - anhysbys)
Polybius, Brenin Parthia bas Lodovico Olivieri
Lisinga, ei ferch soprano Maria Ester Mombelli
Siveno, cariad Lisinga contralto Marianna "Anna" Mombelli
Demetrius, Brenin Syria, tad sydd wedi ymddieithrio oddiwrth Siveno tenor Domenico Mombelli

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Amser: 2il Ganrif, CC
Lle: Parthia [2]

Act 1[golygu | golygu cod]

Mae'r Polybius da, Brenin Parthia, yn gwarcheidwad ei ferch ei hun, Lisinga, a'i chariad Siveno. Mae pawb yn credu bod Siveno yn fab i Minteus, gweinidog y Brenin Demetrius o Syria, ond ef yw mab Demetrius, sydd wedi ymddieithrio ers amser maith. Mae Demetrius, sy’n credu mai Minteus sy'n gyfrifol am ddiflaniad ei fab, yn cyrraedd llys Parthia gan gogio bod yn Eumeno, negesydd brenhinol, ac yn mynnu bod Siveno yn cael ei ddychwelyd i Syria. Mae Polybius yn gwrthod. Mae Siveno a Lisinga yn dathlu eu priodas. Mae Polybius yn cyfaddef i Siveno ei fod yn poeni am yr hyn sydd wedi digwydd, ond mae Siveno yn tawelu ei feddwl. Yn y cyfamser, mae Eumene (Demetrius) yn cynllwynio i herwgipio Siveno a dod ag ef yn ôl i Syria. Mae'n llwgrwobrwyo'r gweision a'r gwarchodwyr ac yn y nos mae'n llwyddo i fynd i mewn i lys Parthia. Fodd bynnag, pan fydd yn cyrraedd siambr wely'r cwpl ifanc, mae'n dod o hyd i Lisinga ar ei phen ei hun ac yn ei herwgipio hi yn ei lle. Mae Polybius a Siveno yn ceisio'n ofer ei rwystro.

Act 2[golygu | golygu cod]

Mae Polybius a Siveno yn pledio am ryddhau Lisinga. Wrth ateb, mae Euemeno (Demetrius) yn bygwth ei lladd oni bai bod Siveno yn cael ei ddychwelyd ato. Yn ei dro, mae Polybius yn bygwth lladd Siveno oni bai bod Lisinga yn cael ei rhyddhau. Mae'r sefyllfa'n dechrau datrys pan fydd Eumene (Demetrius), wrth syllu ar hen fedaliwn yn sylweddoli mai Siveno yw ei fab coll. Yn y cyfamser, nid yw Polybius eisiau colli Lisinga, a dim ond Siveno y mae Eumene (Demetrius) ei eisiau. Yn pryderu am eu gwahaniad arfaethedig, mae Lisinga yn ceisio lladd Eumene, ond o'r diwedd mae'n datgelu ei wir hunaniaeth fel y Brenin Demetrius ac yn cyhoeddi mai ei fab yw Siveno. Mae heddwch yn cael ei adfer, ac mae'r cwpl yn byw yn hapus byth ar ôl hynny.

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Cast:
Polibio, Lisinga,
Siveno, Demetrio
Arweinydd,
Tŷ Opera a Cherddorfa
Label [4]
1992 Giorgio Surjan, Christine Weidinger, Sara Mingardo, Dalmacio González Massimiliano Carraro,
Cerddorfa Symffoni Graz a Chôr Siambr Sluk, Bratislava

(Recordiad o berfformiad yn yr Ŵyl della Valle d'Itria, Martina Franca. 27 Gorffennaf)

CD Sain: Dynamic
Cat: CDS 171 / 1-2
2017 Luca Dall'Amico,
Sofia Mchedlishvili,

Victoria Yarovaya, César Arrieta

Luciano Acocella,
Virtuosi Brunensis, Côr Camerata Bach Poznan

Recordiwyd yn fyw yng Ngŵyl Rossini, Wildbad

CD: Recordiau Naxos
Cat: 8660405-06

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kennedy, Michael (2007), "Demetrio e Polibio", The Concise Oxford Dictionary of Music. (Trwy danysgrifiad:Oxford Reference Online). Gwasg Prifysgol Rhydychen
  2. 2.0 2.1 2.2 Osborne, Charles (1994), The Bel Canto Operas of Rossini, Donizetti, and Bellini, tud 119. Portland, Oregon: Amadeus Press. ISBN 0-931340-71-3
  3. 3.0 3.1 Gossett, Philip; Brauner, Patricia (2001), "Demetrio e Polibio" yn Holden, Amanda (gol.), The New Penguin Opera Guide, tud 766. Efrog Newydd: Penguin Putnam. ISBN 0-14-029312-4
  4. Recordings of Demetrio e Polibio by Gioacchino Rossini adalwyd 22 Medi 2020