Defnyddiwr:Sionk/Pwll Tywod
Cyn-nofiwr Paralympaidd yw Eleanor May Simmonds, OBE (ganwyd 11 Tachwedd 1994,[1] Glossop, Swydd Derby).[2] Mae hi'n dal i ymddangos ar amrywiaeth o raglenni teledu, gan gynnwys fel sylwebydd nofio.
Cafodd Simmonds ei mabwysiadu pan oedd yn ddwy wythnos oed, ar ôl ei diagnosis o achondroplasia. Tyfodd hi lan yn ardal Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr.[2] Pan oedd 11 oed, symudodd ei theulu i Abertawe. Roedd angen i Simmonds defnyddio y Pwll Cenedlaethol Cymru yn y ddinas. Mynychodd Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Sgeti.[3]
Cystadlodd hi yng Ngemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 13 oed, yn Beijing yn Haf 2008. Enillodd hi ddwy fedal aur, gan ennill y digwyddiadau nofio dull rhydd 100m a 400m (categori S6).[1]
Daeth hi Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2009, y deiliad MBE ieuengaf erioed. Wedyn penodwyd Simmonds Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2013.[1]
Ymddeolodd o nofio cystadleuol yn 2021 .[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Mercer, David (25 Awst 2021). "Ellie Simmonds: Why swimmer 'hated' her sport and almost quit before aiming for medal glory at Tokyo Paralympics" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Mayor, Rob; Rack, Susie (6 Gorffennaf 2023). "Ellie Simmonds' emotional search for birth mother" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ Turner, Robin (25 Ebrill 2015). "Paralympic swimming champ Ellie Simmonds says Swansea will always have a special place in her heart". heraldscotland.com (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
Categori:Nofwyr Categori:Cystadleuwyr Paralympaidd Categori:Pobl a aned yn Lloegr Categori:Pobl o Orllewin Canolbarth Lloegr