Defnyddiwr:Llusiduonbach/Pwll Tywod

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

System o nodiant seinegol yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Alphabet neu IPA). Mae'n seiliedig ar yr wyddor Ladin, a dyfeisiwyd hi gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Association) fel modd safonol o gynrychioli seiniau iaith lafar.[1] Defnyddir yr Wyddor gan eiriadurwyr, myfyrwyr ac athrawon ieithoedd tramor, ieithyddion, patholegwyr a therapyddion lleferydd, athrawon ieithoedd tramor, cantorion, geiriadurwyr a chyfieithwyr.[2][3]

Bwriedir i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol gynrychioli nodweddion lleferydd sydd yn rhan o iaith lafar yn unig, sef ffonau, ffonemau, goslef a gwahaniad geiriau a sillafau.[1] Er mwyn cynrychioli nodweddion eraill mewn lleferydd, megis rhincian dannedd, siarad yn floesg a seiniau wedi'u gwneud â thafod a thaflod hollt, gellir defnyddio set estynedig o symbolau.[2]

Cyfansoddir symbolau'r Wyddor o un neu fwy o elfennau o ddau fath sylfaenol: llythrennau a marciau diacritig. Er enghraifft, gellir trawsgrifio'r llythryen Gymraeg Nodyn:Angbr yn yr WSA ag un llythyren, [t], neu â llythyren â marciau diacritig, [tʰ], er mwyn bod yn fwy manwl gywir. Yn aml, defnyddir slaesau i ddangos trawsgrifiad bras neu ffonemig, felly mae /t/ yn llai penodol na, a gellid cyfeirio at, naill ai [tʰ] neu [t], gan ddibynnu ar y cyd-destun a'r iaith.

O bryd i'w gilydd, caiff llythrennau neu farciau diacritig eu hychwanegu, eu diddymu neu eu haddasu gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Ers y newidiadau diweddaraf yn 2005,[4] 107 o lythrennau, 52 o farciau diacritig a phedwar marc mydryddol sydd yn yr Wyddor.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1886, o dan arweiniad yr ieithydd Ffrengig Paul Passy, sefydlodd grŵp o athrawon iaith o Ffrainc ac o Brydain yr hyn a enwyd ym 1897 yn y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Ffrangeg: l’Association phonétique internationale). Roedd eu gwyddor wreiddiol yn seiliedig ar gynnig i ddiwygio orgraff y Saesneg o'r enw yr wyddor Romig, ond er mwyn gallu ei defnyddio ar gyfer ieithoedd eraill, câi'r symbolau amrwyio yn ôl yr iaith.[5] Er enghraifft, cynrycholid y sain [ʃ] (sef, si yn siop) gan y llythyren ⟨c⟩ yn Saesneg ond gan y deugraff ⟨ch⟩ yn Ffrangeg.[6] Serch hynny, adolygwyd yr wyddor ym 1888 er mwyn bod yn gyson ar draws yr ieithoedd ac felly dod yn sylfaen i bob adolygiad y dyfodol.[6][7] Otto Jespersen a awgrymodd y syniad o greu'r Wyddor Seinegol Ryngwladol gyntaf mewn llythyr at Paul Passy a datblygwyd hi gan Alexander John Ellis, Henry Sweet, Daniel Jones a Passy.[8]

Er y cychwyn, mae'r Wyddor wedi cael ei diwygio sawl gwaith. Ar ôl y diwygiadau a'r ehangiadau mawr ym 1900 a 1932, bu iddi aros heb newid hyd Gynhadledd Kiel y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol ym 1989. Roedd adolygiad bach ym 1993 pan ychwanegwyd pedair llythyren newydd am lafariaid canol-ganoledig[2] a thynnwyd llythrennau'r mewngyrcholion di-lais.[9] Adolygwyd yr Wyddor ddiwethaf ym mis Mai 2005 wrth i lythyren am gytsain gnithiedig wefus-ddeintiol.[10] Heblaw am ychwanegu a thynnu symbolau, ailenwi symbolau a chategorïau a diweddaru ffurfdeipiau oedd y mwyafrif o newidiadau.[2]

Crëwyd Estyniadau i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol ar gyfer patholeg leferydd ym 1990 ac fe'u derbyniwyd yn swyddogol gan Gymdeithas Ryngwladol Seinegwyr ac Ieithyddion Clinigol ym 1994.[11]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Siart swyddogol yr Wyddor Seinegol Ryngwladol er 2015

Darparu un llythyren am bob sain wahanol (segment lleferydd) yw nod gyffredinol yr Wyddor Seinegol Ryngwladol, er nad yw hyn yn wir os yw'r sain ei hun yn un gymhleth.[12] Golyga hyn:

  • Nad yw'n defnyddio cyfuniad o lythrennau i gynrychioli seiniau unigol, fel y mae ⟨ch⟩, ⟨dd⟩ ac ⟨ng⟩ y Gymraeg, ac nad yw'n defnyddio llythrennau unigol i gynrychioli sawl sain fel y mae ⟨x⟩ yn cynrychioli

/ks/ a /ɡz/ yn y Saesneg;

  • Nad oes llythrennau y mae eu sain yn dibynnu ar y cyd-destun megis ⟨c⟩ ac ⟨g⟩ "galed" a "meddal" mewn sawl iaith Ewropeaidd;
  • Nad oes gan yr WSR, fel arfer, lythrennau gwahanol am ddwy sain os nad yw unrhyw iaith hysbys yn gwahaniaethu rhyngddynt, arfer o'r enw "detholusrwydd".[13][note 1]

Ymhlith symbolau'r WSR, 107 o lythrennau sydd yn cynrychioli cytseiniaid a llafariaid, 31 o farciau diacritig sydd yn addasu'r rhain a 19 o symbolau ychwanegol sydd yn dangos ansoddau uwchsegmentol megis hyd, tôn, pwyslais a goslef.[note 2] Ceir y symbolau ar ffurf siart a geir yma ac ar wefan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol.

Ffurfiau'r llythrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llythrennau'r WSR i fod i gyd-fynd â'r wyddor Ladin.[note 3] Am hynny, llythrennau Lladin neu Roeg yw'r rhan fwyaf o'r llythrennau, neu addasiadau ohonynt. Nid yw rhai'n perthyn i'r naill na'r llall, er enghraifft, mae'r llythyr sydd yn dynodi'r ffrwydrolyn glotol, ⟨ʔ⟩, ar ffurf gofynnod heb ddot, ac fe ddaw yn wreiddiol o'r collnod. Ysbrydolwyd rhai llythrennau, megis y ffrithiolen sefnigol leisiol, ⟨ʕ⟩, gan systemau ysgrifennu eraill, sef y llythyren Arabeg ‘ain, ⟨ﻉ⟩, yn yr achos hwn.[14]

Er ei bod yn tueddu i gyd-fynd â'r wyddor Ladin, mae'r Gymdeithas Seinegol Ryngwladol wedi derbyn llythrennau eraill weithiau. Er enghraifft, cyn 1989, ⟨ʘ⟩, ⟨ʇ⟩, ⟨ʗ⟩ a ⟨ʖ⟩ oedd llythrennau'r WSR am gytseiniaid clec, a oedd wedi deillio naill ai o lythrennau a oedd eisoes yn yr WSR neu o lythrennau Lladin a Groeg. Er hynny, heblaw am ⟨ʘ⟩, nid oedd defnydd mawr o'r rhain ymhlith ieithyddion Khoisan na Bantw, ac felly fe'u disoglwyd gan y symbolau mwy cyffredin ⟨ʘ⟩, ⟨ǀ⟩, ⟨ǃ⟩, ⟨ǂ⟩ a ⟨ǁ⟩ yng Nghynhadledd Kiel y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol ym 1989.[15]

Er bod marciau diacritig yr WSR yn hollol nodweddol, ni cheir fawr o systemigrwydd yn ffurfiau'r llythrennau. Dangosir cyniad olbyg yn gyson â chynffon sydd yn troelli i'r dde, fel yn ⟨ɖ ʂ ɳ⟩, a chytseiniaid mewngyrchol â bachyn ar eu pen ⟨ɓ ɗ ɠ⟩, ond mae elfennau lled-nodweddol eriall oherwydd tarddiadau a chyd-digwyddiadau damweiniol. Er enghraiff, mae pob cytsain drwynol ond ⟨ɴ⟩ yn seiliedig ar ffurf ⟨n⟩: ⟨m ɱ n ɲ ɳ ŋ⟩. Er hynny, damwain hanesyddol yw'r tegbygrwydd rhwng ⟨m⟩ ac ⟨n⟩; daw ⟨ɲ⟩ ac ⟨ŋ⟩ drwy glymu gn ac ng a gwnaethpwyd ⟨ɱ⟩ yn arbennig ar ddelw ⟨ŋ⟩.

Trowyd rhai llythrennau Lladin ar eu pennau, er enghraifft ⟨ɐ ɔ ə ɟ ɥ ɯ ɹ ʇ ʌ ʍ ʎ⟩, sef a c e f h m r t v w y wedi eu troi. Roedd hyn hawdd ei wneud yn nghyfnod teiposod mecynyddol a'r faintais yw nad yw'n rhaid creu teip arbennig ar gyfer symbolau'r WSR.

Priflythrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni ddefnyddir priflythrennau llawn yn yr WSR. Er hynny, cânt eu denfnyddio am archffonemau ac am ddosbarthiadau naturiol fffonemau, hynny yw, fel cardiau gwyllt. Nid yw'r fath ddefnydd yn rhan o'r WSR nac wedi ei safoni, a gallai fod yn amwys gan ddibynnu ar yr awdur; er hynny, fe'i defnyddir ar y cyd â'r WSA. (Mae siart yr WSA Estynedig, er enghraifft, yn defnyddio ambell gerdyn gwyllt yn ei henghreifftiau.) Rhan sylfaenol o'r Symbolau Ansawdd Llais yw priflythrennau hefyd, a ddefnyddir o bryd i'w gilydd gyda'r WSR.

Mewn llenyddiaeth Saesneg, gwelir C am {gytsain} a V am {llafariad} ym mhobman fel cardiau gwyllt. Yn ogystal â'r rhain gwelir y priflythrennau cyffredin eraill canlynol hefyd.

Symbol Ystyr

#

{glec}

A

{lafariad isel}

B

{sain wefusol}

D

{ffrwydolyn lleisiol} neu {sain orfannol}

F

{sain ffrithiol}

G

{lithriad} neu {lled-lafariad/sain dawdd}

H

{sain lotol}

J neu Ɉ

{sain ôl-orfannol} neu {sain daflodol}

L

{sain dawdd} neu {sain ochrol}

K

{sain felar}

N

{sain drwynol}

P

{sain ffrwydrol}

Q

{sain dafodigol}

R

{sain rotig}

S

{ffrithiolen ddi-lais} neu {sain sisiol}

T

{tôn} neu {ffrwydrolyn di-lais}

U

{lafariad gron}

X

unrhyw beth

Z

{ffrithiolen leisiol}

Φ

{sain argegol}

Er enghraifft, gall siâp sillaf bosibl ym Mandarin amrywsio o V (llafariad heb dôn) hyd CVNᵀ (cytsain-llafariad-sill drwynol â thôn). Gellir addasu'r llythrennau â marciau diacritig yr WSR, er enghraifft, am {cytsain alldafliadol}, Ƈ am {cytsain fewgyrchol}, N͡C neu ᴺC am {gytsain rhagdrwynoledig}, am {llafariad drwynol}, am {gytsain sisiol leisiol}, am {gytsain drwynol ddi-lais}, P͡F neu PF am {gytsain affrithiol} a am {gytsain ddeintiol}. Mewn patholeg lleferydd, gallant gynrychioli seiniau amhenodol, ag uwchysgrif pan fo'r cynanu'n wan: sain orfannol amhenodol wan, sain felar amhenodol wan ac ati.[16]

Ceir enghreifftiau nodweddiadol o ddefnyddio priflythrennau am archffonemau wrth ysgrifennu I am y set o lafariaid harmonig {i y ɯ u} yn Nhyrceg a D am gytsain ganol drawol gyfunedig writer a rider yn Saesneg America.

Mae gan V, F a C ystyron gwahanol fel Symbolau Ansawdd Llais, pan fyddant yn sefyll am 'lais', 'ffalseto' a 'chreclyd'. Gallant dderfyn marciau diacritig sydd yn dangos y math o ansawdd llais sydd ganddynt, ac mae modd eu defnyddio i dynnu allan nodwedd uwchsegmentol sydd ar bob segment dueddol mewn gyfres o lythrennau'r WSR. Er enghraifft, gall trawsgifiad y gair yng Ngaeleg ynys Ìle am "gath", [kʷʰuˣʷt̪ʷs̟ʷ], a "chathod", [kʷʰʉˣʷt͜ʃʷ], fod yn fwy symlach drwy dynnu gwefusoli uwchsegmentol y geiriau allan: Vʷ[kʰuˣt̪s̟] a Vʷ[kʰʉˣt͜ʃ].[17]

Teipograffeg ac eiconigrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r WSR yn seiliedig ar yr wyddor Ladin, gan ddefnyddio cyn lleied o lythrennau o systemau ysgrifennu eraill â phosibl.[18] Creoedd y Gymdeithas yr Wyddor er mwyn i seiniau'r mwyafrif o'r cytseiniaid o'r wyddor Ladin gyd-fynd â "defnydd rhyngwladol".[18] Felly, mae gan ⟨b⟩ (leisiol), ⟨d⟩ (leisiol), ⟨ɡ⟩ (leisiol), ⟨h⟩, ⟨l⟩ (ddeheuol), ⟨m⟩, ⟨n⟩, ⟨r⟩, ⟨s⟩, ⟨t⟩ (ddi-anadl) ac ⟨w⟩ (amcanedig) yr un seiniau â'r Gymraeg. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o'r llafariaid yn cyfateb i lafariaid (hir) y Gymraeg: ⟨a⟩, ⟨e⟩, ⟨i⟩, ⟨o⟩. Mae'r llythrennau eraill yn wahanol i'r Gymraeg ond mae seinaiu ⟨f⟩, ⟨j⟩, ⟨k⟩, ⟨p⟩, ⟨u⟩, ⟨v⟩, ⟨y⟩ a ⟨z⟩ yn debyg i'r llythrennau yn llawer o ieithoedd Ewrop.

Estynnwyd yr rhestr o lythrennau drwy ddefnyddio priflythrennau bach (er enghraifft, ⟨ʙ ɪ ɴ⟩), ffurfiau rhedol (fel ⟨ʃ ʒ⟩) a marciau diacritig (fel ⟨ɓ ç ħ⟩) a hefyd drwy droi lythrennau ar eu pennau (megis ⟨ɔ ʌ ɹ⟩). Cymerwyd nifer o symbolau o'r wyddor Roeg, er y gallai eu seiniau fod yn wahanol. Er enghraifft, llafariad yw ⟨ʋ⟩ yng Ngroeg ond cytsain â pherthynas anuniongyrchol yw hi yn yr WSR. Am y mwyafrif o'r rhain, dyfeisiwyd siapau glyff ychydig yn wahanol ar gyer yr WSR, sef ⟨ɑ⟩, ⟨ꞵ⟩, ⟨ɣ⟩, ⟨ɛ⟩, ⟨ɸ⟩, ⟨ꭓ⟩ a ⟨ʋ⟩, a amgodiwyd yn Unicode ar wahân i'w mamlythrennau Groeg, er nad yw un ohonynt, ⟨θ⟩, ar wahân ac hefyd ⟨β⟩ and ⟨χ⟩ Groeg a ddefnyddir am ⟨ꞵ⟩ a ⟨ꭓ⟩ fel arfer.[19]

Yn aml, mae seiniau'r llythrennau Lladin addasedig yn tarddu o'r llythrennau gwreiddiol hynny.[20] Er enghraifft, mae llythrennau â bachyn i'r dde ar y gwaelod yn cynrychioli cytseiniad olblyg; a bydd priflythren fach yn cynrychioli cytseiniaid tafodigol fel arfer. Heblaw'r ffaith bod rhai ffyrdd o addasu ffurf llythyren yn cyfateb yn gyffredinol i ffyrdd o addasu ei sain, nid oes ffordd arall o wybod sain llythyren o'i siâp (fel yn Visible Speech, er enghraifft) na hyd yn oed berthynas systematig rhwng y symbolau a'u seiniau (fel yn Hangeul).

Yn ogystal â'r llythrennau eu hun, mae nifer o symbolau eilaidd i helpu wrth drawsgrifio. Gellir cyfuno marciau diacritig â llythrennau'r WSR er mwyn trawsgrifio gwerthoedd seinegol addasedig neu gynaniadau eilaidd. Hefyd ceir symbolau a gaiff eu defnyddio am nodweddion uwchsegmentol megis pwyslais a thôn.

Mathau o drawsgrifio[golygu | golygu cod y dudalen]

Dau brif fath o gromfachau a ddefnyddir o boptu i drawsgrifiadau yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol:

  • [cromfachau sgwâr] i'w defnyddio mewn nodiant seinegol, a allai gynnwys manylion ynganu nad ydynt yn cael eu defnyddio er mwyn gwahaniaethu geiriau yn yr iaith a drawsgrifir, ond rhai y mae'r awdur am eu nodi.
  • /slaesau/ i'w defnyddio mewn nodiant ffonemig, nad yw ond yn dangos nodweddion gwahaniaethol yn yr iaith heb fanylion amherthnasol.

Er enghraifft, er bod seiniau'r /n/ yn y geiriau Cymraeg gwrando a ganddo yn cael eu hynganu ychydig yn wahanol, nid yw'r gwahaniaeth yn ystyrlon yn y Gymraeg. Felly yn ffonemig, /ˈɡwrandɔ/ a /ˈɡanðɔ/ yw geiriau, â'r un ffonem /n/. Er hynny, er mwyn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy (sef, aloffonau /n/), gellir eu trawsgrifio yn /ˈɡwrandɔ/ a /ˈɡan̪ðɔ/.

Mae confensiynau eraill prinnach yn cynnwys:

  • Gellid defnyddio sleisiau dwbl // //, pibellau | |, pibellau dwbl || ||, neu gyplysnodau { } o gwmpas gair er mwyn dynodi ei strwythur sylfaenol mwy haniaethnol na ffonemau hyd yn oed. Gweler morffoffonoleg am enghreifftiau.
  • Defnyddir bachau sgwâr

⟦ ⟧ am drawsgrifio'n fanwl iawn. Maent yn dangos bod gan lythyren ei phrif werth yn yr WSR. Er enghraifft, llafariad flaen isel yw ⟦a⟧, yn hytrach na'r gwerth efallai ychydig yn wahanol (fel llafariad ganolog isel) a gaiff ei ddefnyddio wrth drawsgrifio rhyw iaith benodol. Felly efallai y caiff dwy lafariad eu trawsgrifio yn ⟨[e]⟩ ac ⟨[ɛ]⟩ er mwyn eu gwneud yn hawdd eu darllen ond gellir eglurhau eu seiniau fel ⟦e̝⟧ ac ⟦e⟧, neu efallai y gellir ⟨[ð]⟩ fod yn ⟦ð̠̞ˠ⟧ yn fanwl gywir.[21]

  • Caiff bachau onglog eu defnyddio er mwyn egluro bod y llythrennau yn cyrychioli orgraff wreiddiol yr iaith, neu efallai traslythreniad ysgrifen nad yw'n Lladin, nid yr WSR. Fel arall, o fewn yr WSR, fe'u defnyddir i ddangos mai'r llythrennau eu hun a ddangosir, nid eu seiniau. Er enghraifft, ⟨car⟩ a ⟨crac⟩ a gâi eu hysgrifennu mewn bachau onglog, geiriau nad ydynt yn cynnwys sain

[c] y llythyren ⟨c⟩ yn yr WSR. Efallai mai llythrennau italig sydd yn fwy cyffredin i'r diben hwn wrth ysgrifennu geiriau llawn (car a crac), ond nid ydynt yn ddigon eglur am lythrennau a deugraffau unigol bob tro.[22]

  • Defnyddir cyplysnodau { } mewn nodiant mydryddol. Gweler Estyniadau i'r Wyddor Seinegol Ryngwladol am enghreifftiau yn y system honno.
  • Ceir cromfachau ( ) am leferydd aneglur. Fe'u gwelir am gynanu distaw (gwefuso), pan ddaw'r trasgrifiad seinegol disgwyliedig o ddarllen y gwefusau, a chydag atalnodau llawn er mwyn dangos seibiau distaw, er enghraifft (...).
  • Dengys cromfachau dwbl, (( )) neu ⸨ ⸩, sŵn aneglur neu annealladwy, megis ((2 sill.)) neu ⸨2 sill.⸩, sef dwy sillaf clywadwy ond anadnabyddadwy.

Ffurfiau mewn llawysgrifen[golygu | golygu cod y dudalen]

Enghraifft o destun wedi ei argraffu gyda llythrennau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol wedi eu ysgrifennu â llaw. Sɨk and sɔ̄k yw'r ddau air ar ddechrau'r llinell gyntaf. Mae gan yr ɔ ffurf redol sydd yn debyg i 2 neu fersiwn fach o'r briflythyren Q mewn rhai mathau o llawysgrifen redol.

Mae gan lythrennau'r Wyddor Seinegol Ryngwladol ffurfiau ysgrifenedig i'w defnyddio mewn llawysgrifau ac wrth ysgrifennu cofnodion maes. Gwelir y rhain o bryd i'w gilydd mewn cyhoeddiadau pan nad oes gan yr argraffydd y ffontiau i gefnogi'r Wyddor ac felly ysgrifennir y llythrennau â llaw.

Addasu siart yr WSR[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd awduron gwerslyfrau neu gyhoeddiadau tebyg yn aml yn creu fersiynau diwygiedig o siard yr WSR er mwyn gweddu i'w hoffterau neu eu hanghenion. Dengys y ddelwedd hon un fersiwn o hyn. Dim ond y symbolau du sydd yn rhan o'r WSR; mae symbolau cyffredin ychwanegol yn llwyd.

O bryd i'w gilydd, fe addasir yr Wyddor Seinegol Ryngwladol gan y Gymdeithas. Ar ôl pob addasiad, mae'r Gymdeithas yn darparu cyflwyniad o'r wyddor wedi ei ddiweddaru a'i symleiddio ar ffurf siart. Ni ellir dangos pob agwedd o'r wyddor ar siart o'r maint a gyhoeddir gan y Gymdeithas. Er enghraifft, nid yw'r cytseiniaid gorfan-daflodol ac ardaflodol ar siart y cytseiniaid ohwerydd rhesymau diffyg lle yn hytrach na rhai damcaniaethol (byddai eisiau dwy golofn ychwanegol, y naill rhwng y colofnau olblyg a thaflodol a'r llall rhwng y colofnau argegol a glotol), a byddai angen rhes ychwanegol gyfan am y gytsain gnithiedig ochrol, felly fe'u rhestrir mewn bloc dan yr enw cyffredinol "symbolau eraill".[23] Byddai cofnodi pob llythyren donyddol bosibl yn eu cyfanrwydd yn hollol ymarferol, hyd yn oed ar ddalen fwy, felly dim ond rhai enghreifftiau a geir

Er mwyn addasu'r wyddor neu'r siart, rhaid cynnig y newid yng nghyfnodolyn y Journal of the IPA (gweler, fel enghraifft, Awst 2008 ynglŷn â llafariad ganol isel ac Awst 2011 ynghylch cytseiniaid amcanedig canol).[24] Gellir wedyn argraffu ymatebion i'r cynnig yn yr un rhifyn neu mewn rhifynnau canlynol o'r cyfnodolyn (megis ym mis Awst 2009 ar y llafariad ganol isel.[25] Yna, rhoddir cynnig ffurfiol gerbron Cyngor y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol[26] – sydd yn cael ei ethol gan yr aelodau[27] – er mwyn ei drafod ymhellach ac am bleidlais.[28][29]

Dim ond newidiadau i'r wydddor neu'r siart a gymeradwywyd gan y Cynor y gellir eu hystyried yn rhan o'r Wyddor Seinegol Ryngwladol swyddogol. Serch hynny, bydd llawer o ddefnyddwyr yr wyddor, gan gynnwys arweinwyr y Gymdeithas ei hun, yn gwneud newidiadau neu ychwanegiadau personol wrth ei defnyddio, naill ai er hwylustod wrth weithio ar ryw iaith benodol (gweler "Illustrations of the IPA" am ieithoedd unigol yn yr Handbook, a allai ddefnyddio ⟨c⟩ am [tʃ]),[30] neu oherwydd eu bod yn anghytuno â rhyw agwedd o'r fersiwn swyddogol.

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod yr Wyddor yn cynnig dros 160 o symbolau i drawsgrifio lleferydd, dim ond nifer bach o'r rhain sydd yn cael eu defnyddio wrth drawsgrifio iaith benodol. Gall trawsgrifiad seinegol yn amrywio yn ei fanyler. Ceir graddfa lle mae trawsgrifiad tra chywir ar y naill ben a thrawsgrifiad sydd yn anwybyddu llawer iawn o fanylion ar y llall. Bydd trawsgrifiadau seinegol llai manwl yn dangos y manylion sydd yn hawdd eu clywed, neu sydd yn berthnasol i'r drafodaeth, ac efallai na fyddant yn wahanol iawn i drawsgrifiadau ffonemig. Er hynny, nid ydynt yn honni bod y gwahaniaethau a drawsgrifir yn angenrheidiol o ystyrlon yn yr iaith.

Er enghraifft, gellir trawsgrifio'r gair Cymraeg dôl yn [doːl], ac mae'r trawsgrifiad bras (anfanwl) hwn yn ddisgrifiad gweddol gywir o sawl ynganiad. Gallai trawsgrifiad manylach ganolbwyntio ar fanylion unigol neu dafodieithol, er enghraifft [d̪oːlˠ] yn y Gogledd-Ddwyrain neu [d̪ɔːlˠ] yn y Gogledd-Orllewin.

Trawsgrifiadau o'r gair international mewn dwy dafodiaith Saesneg – Saesneg Safonol De Prydain a Saesneg Cyffredinol America.


Mae'n arferol i ddefnyddio llythrennau symlach, heb lawer o farciau diacritig, mewn trawsgrifiadau ffonemig. Gall dewis y llythrennau adlewyrchu honiadau damcaniaethol yr awdur, neu efallai bod yn gyfleus wrth deiposod. Er enghraifft, yn Gymraeg, gellid trawsgifrio llafariad pìn neu pin fel /o/, felly /pɪn/ a /piːn/, er nad yw'r naill neu'r llall yn debyg i lafariad y gair Sbaeneg pin, a drawsgrifir fel /i/ hefyd. Hynny yw, nid oes gan lythrennau rhwng slaesau werthoedd absoliwt a dyma rhywbeth sy'n wir drawsgrifiadau ffonetig bras hefyd. Er hynny, gellid defnyddio trawsgrifiad cul i'w gwahaniaethu: [pʰɪn], [pʰiːn], [pin].

Ieithyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod yr Wyddor yn boblogaidd gyda ieithyddion er mwyn trawsgrifio, mae ieithyddion Americanaidd yn aml yn defnyddio

Although IPA is popular for transcription by linguists, American linguists often alternate use of the IPA with Americanist phonetic notation or use the IPA together with some nonstandard symbols, for reasons including reducing the error rate on reading handwritten transcriptions or avoiding perceived awkwardness of IPA in some situations. The exact practice may vary somewhat between languages and even individual researchers, so authors are generally encouraged to include a chart or other explanation of their choices.[31]

Astudio ieithoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn:Expand section [[File:English-2nd_grade-Vereshchagina-Russian-textbook-page_39.png|bawd|404x404px|Tudalen o llyfr cwrs Saesneg o Rwsia. Caiff yr WSR ei defnyddio er mwyn dysgu ynganiadau gwahanol y ddeugraff [[Th (digraph)|Nodyn:Angbr]] ( /θ/, /ð/) ac i ddangos sut mae ynganu'r geiriau newydd polite, everything, always a forget.|link=Special:FilePath/English-2nd_grade-Vereshchagina-Russian-textbook-page_39.png]] Some language study programs use the IPA to teach pronunciation. For example, in Russia (and earlier in the Soviet Union) and mainland China, textbooks for children[32] and adults[33] for studying English and French consistently use the IPA. English teachers and textbooks in Taiwan tend to use the Kenyon and Knott system, a slight typographical variant of the IPA.

Geiriaduron[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymraeg

?

Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Many British dictionaries, including the Oxford English Dictionary and some learner's dictionaries such as the Oxford Advanced Learner's Dictionary and the Cambridge Advanced Learner's Dictionary, now use the International Phonetic Alphabet to represent the pronunciation of words.[34] However, most American (and some British) volumes use one of a variety of pronunciation respelling systems, intended to be more comfortable for readers of English. For example, the respelling systems in many American dictionaries (such as Merriam-Webster) use Nodyn:Angbr for IPA [j] and Nodyn:Angbr for IPA [ʃ], reflecting common representations of those sounds in written English,[35] using only letters of the English Roman alphabet and variations of them. (In IPA, [y] represents the sound of the French Nodyn:Angbr (as in tu), and [sh] represents the pair of sounds in grasshopper.)

Ieithoedd eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

The IPA is also not universal among dictionaries in languages other than English. Monolingual dictionaries of languages with generally phonemic orthographies generally do not bother with indicating the pronunciation of most words, and tend to use respelling systems for words with unexpected pronunciations. Dictionaries produced in Israel use the IPA rarely and sometimes use the Hebrew alphabet for transcription of foreign words. Monolingual Hebrew dictionaries use pronunciation respelling for words with unusual spelling; for example, the Even-Shoshan Dictionary respells תָּכְנִית as תּוֹכְנִית because this word uses kamatz katan. Bilingual dictionaries that translate from foreign languages into Russian usually employ the IPA, but monolingual Russian dictionaries occasionally use pronunciation respelling for foreign words; for example, Sergey Ozhegov's dictionary adds нэ́ in brackets for the French word пенсне (pince-nez) to indicate that the final е does not iotate the preceding н.

The IPA is more common in bilingual dictionaries, but there are exceptions here too. Mass-market bilingual Czech dictionaries, for instance, tend to use the IPA only for sounds not found in the Czech language.[36]

Orgraffau safonol a phriflythrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Case variants of IPA letters

Mae llythrennau'r WSR wedi cael eu hymgorffori i mewn i wyddorau nifer o ieithoedd, yn enwedig trwy Wyddor Affrica mewn sawl iaith o Is-Sahara fel Hawsa, Fula

PA letters have been incorporated into the alphabets of various languages, notably via the Africa Alphabet in many sub-Saharan languages such as Hausa, Fula, Akan, Gbe languages, Manding languages, Lingala, etc. This has created the need for capital variants. For example, Kabiyè of northern Togo has Ɖ ɖ, Ŋ ŋ, Ɣ ɣ, Ɔ ɔ, Ɛ ɛ, Ʋ ʋ. These, and others, are supported by Unicode, but appear in Latin ranges other than the IPA extensions.

In the IPA itself, however, only lower-case letters are used. The 1949 edition of the IPA handbook indicated that an asterisk Nodyn:Angbr may be prefixed to indicate that a word is a proper name,[37] but this convention has not been included in recent editions.

Canu clasurol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelir defnydd helaeth o'r WSR ymhlith cantorion clasurol wrth baratoi, yn enwedig ymysg cantorion Saesneg eu hiaith y disgwylir iddynt ganu mewn sawl iaith dramor. Ceir trawsgrifiadau awdurdodol o libreti opera yn yr WSR, megis cyfrolau Nico Castel[38] a llyfr Singing in Czech Timothy Cheek.[39] Defnyddiwyd gallu cantorion opera i ddarllen yr WSR gan wefan Visual Thesaurus, a gyflogodd sawl canwr neu gantores opera "i wneud recordiadau ar gyfer y 150,000 o eiriau ac ymadroddion yng nghronfa ddata eirfaol VT. ...am stamina eu lleisiau, eu sylw i fanylion ynganu ac yn bennaf oll eu gwybodaeth o'r WSR."[40]

Llythrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 International Phonetic Association (IPA), Handbook.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 MacMahon, Michael K. C. (1996). "Phonetic Notation". In P. T. Daniels and W. Bright (eds.) (gol,.). The World's Writing Systems. New York: Oxford University Press. pp. 821–846. ISBN 0-19-507993-0.CS1 maint: Extra text: editors list (link)
  3. Wall, Joan (1989). International Phonetic Alphabet for Singers: A Manual for English and Foreign Language Diction. Pst. ISBN 1-877761-50-8.
  4. "IPA: Alphabet". Langsci.ucl.ac.uk. Archifwyd o y gwreiddiol ar October 10, 2012. Cyrchwyd 20 November 2012.
  5. "Originally, the aim was to make available a set of phonetic symbols which would be given different articulatory values, if necessary, in different languages." (International Phonetic Association, Handbook, pp. 195–196)
  6. 6.0 6.1 International Phonetic Association, Handbook, pp. 194–196
  7. Passy, Paul (1888). "Our revised alphabet". The Phonetic Teacher: 57–60.
  8. IPA in the Encyclopædia Britannica
  9. Pullum and Ladusaw, Phonetic Symbol Guide, pp. 152, 209
  10. Nicolaidis, Katerina (September 2005). "Approval of New IPA Sound: The Labiodental Flap". International Phonetic Association. Cyrchwyd 2006-09-17.
  11. International Phonetic Association, Handbook, p. 186
  12. “From its earliest days...the International Phonetic Association has aimed to provide ‘a separate sign for each distinctive sound; that is, for each sound which, being used instead of another, in the same language, can change the meaning of a word’.” (International Phonetic Association, Handbook, p. 27)
  13. MacMahon, Michael K. C. (1996). "Phonetic Notation". In P. T. Daniels and W. Bright (eds.) (gol,.). The World's Writing Systems. New York: Oxford University Press. pp. 821–846. ISBN 0-19-507993-0.CS1 maint: Extra text: editors list (link)
  14. Pullum and Ladusaw, Phonetic Symbol Guide, pp. 152, 209
  15. Laver, Principles of Phonetics,pp. 174–175
  16. Perry (2000) Phonological/phonetic assessment of an English-speaking adult with dysarthria
  17. Laver (1994) Principles of Phonetics, p. 374.
  18. 18.0 18.1 International Phonetic Association, Handbook, pp. 194–196
  19. Cf. the notes at the Unicode IPA EXTENSIONS code chart as well as blogs by Michael Everson and John Wells here and here.
  20. Handbook, International Phonetic Association, p. 196, "The new letters should be suggestive of the sounds they represent, by their resemblance to the old ones.".
  21. Basbøll (2005) The Phonology of Danish p. 45, 59
  22. Proper angle brackets used in transcription are the mathematical symbols ⟨...⟩ (U+27E8 and U+27E9). These may not be supported by older fonts. Chevrons ‹...› (U+2039, U+203A) are sometimes substituted, as are the less-than and greater-than signs <...> (U+003C, U+003E) found on ASCII keyboards.
  23. John Esling (2010) "Phonetic Notation", in Hardcastle, Laver & Gibbon (eds) The Handbook of Phonetic Sciences, 2nd ed., p 688, 693.
  24. "Cambridge Journals Online - Journal of the International Phonetic Association Vol. 41 Iss. 02". Journals.cambridge.org. 2012-10-23. Cyrchwyd 2012-11-20.
  25. "Cambridge Journals Online - Journal of the International Phonetic Association Vol. 39 Iss. 02". Journals.cambridge.org. 2012-10-23. Cyrchwyd 2012-11-20.
  26. "IPA: About us". Langsci.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2012-11-20.
  27. "IPA: Statutes". Langsci.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2012-11-20.
  28. "IPA: News". Langsci.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2012-11-20.
  29. "IPA: News". Langsci.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2012-11-20.
  30. IPA Handbook (1999)
  31. Sally Thomason (January 2, 2008). "Why I Don't Love the International Phonetic Alphabet". Language Log.
  32. For example, the English school textbooks by I. N. Vereshagina, K. A. Bondarenko and T. A. Pritykina.
  33. For example, "Le Français à la portée de tous" by K. K. Parchevsky and E. B. Roisenblit (1995) and "English Through Eye and Ear" by L.V. Bankevich (1975).
  34. "Phonetics". Cambridge Dictionaries Online. 2002. Cyrchwyd 2007-03-11.
  35. "Merriam-Webster Online Pronunciation Symbols". Cyrchwyd 2007-06-04.Agnes, Michael (1999). Webster's New World College Dictionary. New York, NY: Macmillan USA. xxiii. ISBN 0-02-863119-6.Pronunciation respelling for English has detailed comparisons.
  36. (Tsiec) Fronek, J. (2006). Velký anglicko-český slovník (yn Czech). Praha: Leda. ISBN 80-7335-022-X. In accordance with long-established Czech lexicographical tradition, a modified version of the International Phonetic Alphabet (IPA) is adopted in which letters of the Czech alphabet are employed.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  37. Principles of the International Phonetic Association, 1949:17.
  38. "Nico Castel's Complete Libretti Series". Castel Opera Arts. Cyrchwyd 2008-09-29.
  39. Cheek, Timothy (2001). Singing in Czech. The Scarecrow Press. p. 392. ISBN 978-0-8108-4003-4.
  40. Zimmer, Benjamin (2008-05-14). "Operatic IPA and the Visual Thesaurus". Language Log. University of Pennsylvania. Cyrchwyd 2009-09-29.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol ar gyfer y grwp "note", ond ni chafwyd tag <references/>, ynteu roedd </ref> terfynol yn eisiau.