Defnyddiwr:Gwenllian1234/Pwll Tywod

Oddi ar Wicipedia
Dua Lipa 09 28 2018 -93 (46007291064)

Dua Lipa yw canwr, cyfansoddwr a model Saesneg. Ar ôl gweithio fel model, fe arwyddodd gyda Warner Music Group yn 2015 a rhyddhau ei chân gyntaf, "New Love". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf yn 2017, a oedd yn cynnwys saith sengl, gan gynnwys dwy sengl 'top-ten' yn y DU "Be the One" ac "IDGAF", a sengl rhif un yn y DU "New Rules", a hefyd gyrhaeddodd rif chwech yn yr Unol Daleithiau. Cyrhaeddodd y sengl "One Kiss" gyda Calvin Harris rif un yn y DU, a ddaeth yn y rhif un hiraf i artist benywaidd yn 2018. Fe wnaeth llwyddiant y senglau helpu ei halbwm hunan-deitl i ddod yr albwm benywaidd a oedd wedi'i ffrydio fwyaf erioed ar Spotify, ac i gyflawni platinwm mewn sawl gwlad, gan gynnwys y DU a'r UD. Mae hi wedi derbyn tair Gwobr Brit a dwy Wobr Grammy.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dua Lipa ar y 22fed o Awst 1995 yn San Steffan, Llundain i rieni o Kosovo ac Albania. Ystyr ei henw cyntaf yw "cariad" yn Albaneg. Esboniodd Lipa "Nawr rwy'n falch ohono. Nawr rydw i. Ond pan oeddwn i'n tyfu i fyny, y cyfan roeddwn i eisiau oedd cael fy ngalw yn Hannah, Sarah, Ella ... unrhyw beth normal. Oherwydd gyda Dua roedd yn rhaid i chi egluro: dwi'n dod o Kosovo."[1]

Albymau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dua Lipa (4 October 2017). "Patrizia meets Dua" (Cyfweliad) (yn English a Italian). Cyfwelwyd gan Patrizia Pepe. Cyrchwyd 15 December 2017 – drwy YouTube.CS1 maint: unrecognized language (link)