Defnyddiwr:Gareth llanrug/drafftio

Oddi ar Wicipedia

Yr arfordir yn Llandrillo yn rhos a Bae Penrhyn heddiw

Yn ddiweddar, mae yna rai yn ceisio rhoi mwy o ymwybyddiaeth i’r chwedl am Madog yn hwylio i’r Amerig a’i fod wedi cychwyn ar ei fordaith o Landrillo yn rhos, ac mae perchenogion busnesau yn ardal Bae Colwyn yn gobeithio bydd y chwedl yn denu mwy o ymwelwyr.

Pwy oedd y Madog yma?[golygu | golygu cod]

Madog

Yn ôl y chwedl, Madog ab Owain Gwynedd,un o feibion Owain Gwynedd oedd Madog, er nad oes tystiolaeth fod gan frenin Gwynedd, Owain Gwynedd yn y ddeuddegfed ganrif, fab o'r enw Madog - a oedd o dras Llychlynaidd ar ochr ei fam. Honnir ei fod ef a’i frawd Rhirid, wedi blino ar yr ymladd parhaus yng Nghymru'r ddeuddegfed ganrif ac wedi hwylio ymaith yn ei long Gwenan Gorn. LLUNIAU 2a. Pen Madog 2b. Madog

Sawl llong oedd ar y fordaith?[golygu | golygu cod]

Os coeliwch chwi gerdd enwog :J. Ceiriog Hughes roedd yna dair ar ddeg!

“Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.”
Llong debyg i Gwenan Gorn

LLUN 3. Llong debyg ir Gwenan Gorn Ond, roedd yna blac, uniaith Saesneg, mewn gardd tŷ preifat o’r enw ‘Odstone’ ar gyrion Llandrillo a Bae Penrhyn, sydd bellach wedi ei ddymchwel ar gyfer ail-ddatblygu’r tir, yn honni ‘Gorn, Gwynant and Pedr Sant’

Y Tŷ Odstone cyn iddo gael ei dymchwel
Y plac ger Odstone

LLUNIAU 4a. y plac ger Odstone. 4b. Llun o ‘Odstone cyn ei ddymchwel Rhaid dweud bu newid wedi dros y canrifoedd yng nghwrs yr Afon Ganol a arferai lifo i’r môr ger y fan yr honnir y cychwynnodd y fordaith. Cyn yr Oes Iâ ddiwethaf, a ddaeth i ben tua 10,000C.C., arferai Afon Conwy lifo ar hyd gwastatir Mochdre i’r môr ym Mae Penrhyn. Yr esboniad mwyaf tebygol, yn ôl Eryl Owain yn ei lyfr ‘Bro Conwy’ yw “i ddarnau enfawr o rew gau ceg yr afon gan greu llyn enfawr yng ngwaelod Dyffryn Conwy ac i bwysau’r dŵr hwnnw dorri llwybr newydd i’r môr rhwng Conwy a Deganwy. Hyd at adeiladu priffordd yr A55 heibio Mochdre, arferai Afon Ganol ar y gwastatir corsog hwn lifo i ddau gyfeiriad gan arwyllus dŵr i Afon Conwy ac i Fae Penrhyn.”

Y gwastatir corsog ble bu Afon Ganol

Ta waeth, yn ôl y chwedl, hwyliodd Madog i’r Amerig yn y flwyddyn 1170 a glanio ym Mae Mobile. Yno, ger Fort Morgan yn Mobile Bay, Alabama, codwyd cofeb i Madog a'i griw yn 1953 ac mae na lefydd wedi eu henwi ar ei ôl yn y rhan hon o ogledd America. Rhaid cofio bod hyn 322 o flynyddoedd cyn i Christopher Columbus hawlio mai fo oedd wedi darganfod America (yn 1492)!

Plac yn Mobile
Plac arall yn Mobile

Wedi darganfod gwlad yn y gorllewin, dywedir eu bod wedi dychwelyd i Gymru i gasglu pobl oedd yn awyddus i ymsefydlu yn y wlad newydd, a hwylio ymaith eto, ond does yna ddim tystiolaeth o hyn chwaith.

Dirgelwch yr Indiaid[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddarach dechreuodd straeon gylchredeg am lwyth y Mandaniaid yng ngogledd America, yn haeru eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion y Cymry a deithiodd i America gyda Madog. Y ddamcaniaeth yw i Madog a'i gymdeithion lanio rywle oddi ar arfordir Gwlff Mecsico ac wedyn ymsefydlu yn Georgia, Tennessee a Kentucky gan symud i fyny'r afon Missouri lle dywedir iddyn nhw ddod ar draws criw o Indiaid o genedl y Mandaniaid. Honnir bod yna geyrydd carreg tebyg i rai a welir yng ngogledd Cymru i'w cael yn nyffryn Tennessee. Hefyd, yn ychwanegol roedd y ffaith fod y Mandaniaid yn defnyddio cychod yr un siâp a chwryglau a bod rhai geiriau tebyg i eiriau Cymraeg yn eu hiaith.

Dau o lwyth y Mandan
Cychod y Mandaniaid oedd yn debyg i ‘r cwryglau yng Nghymru

Ond er y dystiolaeth nad oes gwirionedd i'r stori, mae wedi bod yn arf propoganda defnyddiol dros y blynyddoedd.

Taith John Evans o’r Waunfawr[golygu | golygu cod]

Roedd Iolo Morgannwg yn awyddus i deithio i America i chwilio am y Mandan ar hyd Afon Missouri, a chytunodd John Evans o’r Waunfawr yng Ngwynedd i fynd gydag ef. Yn y diwedd nid aeth Iolo, ac ar ei ben ei hun y teithiodd John Evans i America, gan gyrraedd Baltimore yn Hydref 1792. Yng ngwanwyn 1793 aeth i St. Louis yn Louisiana Sbaeneg, lle taflwyd o i’r carchar gan y Sbaenwyr am gyfnod gan eu bod yn amau ei fod yn ysbiwr!

Ond, erbyn Ebrill 1795 roedd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau Sbaenig i deithio i fyny'r Missouri a cheisio darganfod llwybr at y Môr Tawel o ran uchaf yr afon. Cafodd hyd i’r Llwyth Mandan ar 23 Medi 1796, a threuliodd y gaeaf gyda nhw cyn dychwelyd i St. Louis yn 1797. Ni allodd ddarganfod unrhyw awgrym o eiriau Cymraeg yn eu hiaith. Roedd wedi teithio 1,800 milltir i fyny’r Missouri o’r fan lle mae’n aberu yn Afon Mississippi, a chynhyrchodd fap yn dangos cwrs yr afon. Parhaodd John Evans yng ngwasanaeth yr awdurdodau Sbaenig, ond bu farw yn New Orleans yn mis Mai 1799, yn ŵr ifanc 29 oed, wedi ei siomi'n fawr.

Elisabeth 1af yn Hawlio![golygu | golygu cod]

Yn oes Elisabeth 1, defnyddiwyd y chwedl i hybu hawl y frenhines dros diriogaethau yn yr America a chysylltiadau'r Ymerodraeth 'Brydeinig', neu Frythonig, y naill ochr i fôr yr Iwerydd. Roedd hefyd yn boblogaidd ymysg y Cymry a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn eu lluoedd yn yr 17eg a'r 18fed Ganrif. Yn dilyn cyngor gan y Frenhines Elisabeth I o Loegr, rhoddodd y gwyddonydd cyfrin John Dee bapurau at ei gilydd a oedd yn ceisio hawlio de America fel eiddo i Goron Lloegr, a hynny'n seiliedig ar y chwedl hon. Roedd Dee o dras Cymreig ac yn honni ei fod yn gwybod hanes Madog. Beth wnewch chi o’r chwedl? Wrth gwrs, mae yna ardaloedd eraill yng Nghymru sy’n credu mai ganddyn nhw mae’r hawl am orchestion Madog. Beth bynnag am hanes gorchestion Madog, mae’n sicr bod y ffeithiau am ddewrder John Evans o’r Waunfawr yn destun edmygedd.