Dant
Mae dant (lluosog: dannedd) yn helpu i dorri, rhywgo a malu bwyd cyn bod y bwyd yn cael ei lyncu. Mae gwahanol fathau o ddannedd. Mae gan fodau dynol dri math o ddannedd. Mae'r cilddannedd fel arfer yng nghefn y geg yn malu'r bwyd yn fân. Mae'r dannedd llygad yn hir ac yn finiog iawn. Defnyddir dannedd llygad i ddal gafael yn y bwyd. Mae'r blaenddannedd ym mhen blaen y geg, fel yr awgryma'r enw, ac fe'u defnyddir i rwygo'r bwyd.
Mae dannedd yn wahanol mewn anifeiliad eraill. Mae gan y cigysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sydd yn addas i ladd anifeiliad eraill ac i rwygo cnawd. Mae'r dannedd llygad yn hir a miniog i afael yn dynn mewn cnawd a'r cilddannedd yn cracio a malu esgyrn yn fan. Mae gan lysysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sy'n addas i fwyta planhigion. Mae'r blaenddannedd yn torri a'r cilddannedd yn malu'n fan.
Mewn llenyddiaeth Gymraeg
[golygu | golygu cod]Ceir sôn am ddannedd yn yr hen benillion:
- On'd ydyw yn beth hynod
- Fod dannedd merch yn darfod?
- Ond tra bo yn ei genau chwyth
- Ni dderfydd byth mo'i thafod.
Arferion Hanesyddol
[golygu | golygu cod]Roedd yna arferiad (ffashiwn?) ddechrau’r 20ed ganrif sy’n anodd iawn i ni ddeall erbyn heddiw, sef talu deintydd i dynnu’ch dannedd i gyd er mwyn prynu danedd gosod (dannedd dodi) smart a di-drafferth i bara am oes! Dyma ddwy enghraifft byw o ddyddiadur Griffith Thomas (11 mlynedd rhwng y ddau!):
- 3 Ebrill 1918 Rhiw, Llŷn: "Mercher 3. Fi a Eliza yn mynd i’r dre. Llwytho yr SS Anne. 350 Tynnu fy nanedd - dim gwaith.".
- 13 Awst 1929 Rhiw Llŷn: "Arian gan Daniel 5/7d. Yn ffair awst yn gorffen tynnu fy nanedd"[1]
Dyma rai cofnodion o hyn wedi eu codi o Facebook (Grwp Cymuned Llên Natur):
- Yn Nhregaron yn y 60au roeddech yn gallu neud hyn ar yr NHS gyda'r deintydd oedd yn dod ar ddiwrnod mart! (Jenny Heney)
- Cofio fy ffrind yn dweud i’w nain (Bethesda) gael tynnu ei dannedd igyd a chael set cyfan o ddannedd gosod fel presant priodas gan ei rhieni!! I arbed trafferth efo nhw yn y dyfodol! Fel Dowry od. Dwi ddim yn gwybod pryd roedd hyn ond debyg y byddai ei nain tua 80-90 erbyn hyn. (Catrin Meirion)
- Fe dynnwyd dannedd Mam i gyd jyst cyn fy ngeni i yn y 40au i arbed trafferth! Ac roedd gen i aelod o staff yn y 70au gafodd dynnu ei dannedd yn anrheg 18 oed. (Megan Tudur)