Danadlwst dermatograffig
Dermatographic urticaria | |
---|---|
Danadlwst dermatograffig, neu "ysgrifen ar y croen". | |
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol | |
ICD-ICD-10 | L50.3 |
ICD- 9 | 708.3 |
OMIM | 125635 |
Afiechydon | 12736 |
eMedicine | derm/446 |
Anhwylder croen sy'n effeithio ar 4-5% o boblogaeth y byd ydy danadlwst dermatograffig (a elwir weithiau'n wrticaria dermatograffig). Mae'n un o'r mathau mwyaf cyffredin o ddanadlwst,[1] lle mae'r croen yn codi ac yn llidio pan gaiff ei fwytho, crafu, rhwbio neu daro.[2]
Cyflwyniad
[golygu | golygu cod]Credir i'r symptomau gael eu hachosi gan fastgelloedd ar arwynebedd y croen sy'n rhyddhau histaminau heb antigenau, o ganlyniad i bresenoldeb pilen gwan yn amgylchynnu'r mastgelloedd. Achosa'r histaminau a gaiff eu rhyddhau i'r croen chwyddo yn yr ardal a effeithir.
Mae'r pilen gwan hwn yn torri'n hawdd o dan bwysedd ffisegol gan achosi adwaith tebyg i alergedd, gan amlaf gan achosi gwrym i ymddangos ar y croen. Gyda'r mwyafrif o achosion, bydd y chwyddo'n lleihau o ran ei hun o fewn 15-30 munud, ond mewn achosion eithafol, gall gwrymau coch, coslyd bara unrhyw beth o rai oriau i rai dyddiau.
Achosion
[golygu | golygu cod]Ni wyddir achos sylfaenol danadlwst dermatograffig, a gall barhau am nifer o flynyddoedd heb iachad. Caiff 5% o achosion cronig fyth mo'u datrys. Gwelwyd cynnydd yn y nifer o achosion o ganlyniad i fod ger meicrodonau dros gyfnod hir.[3][4] Gall yr anhwylder gilio a diflannu am gyfnod; fodd bynnag, mae'n gyflwr gydol oes. Nid yw'n afiechyd sy'n peryglu bywyd ac nid yw'n heintus.
Gall symptomau waethygu gan gyfnodau o straen, pryder, dillad tynn, oriorau, sbectolau, gwres neu oerfel,[5] neu unrhyw beth sy'n achosi straen i'r croen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Am. J. Med. Genet. 39 (2): 201–203. 1991. doi:10.1002/ajmg.1320390216. PMID 2063925. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/ajmg.1320390216/abstract.
- ↑ Kontou-Fili (1997). Physical urticaria: classification and diagnostic guidelines. An EAACI position paper, Cyfrol 52, Rhifyn 5, tud. 504–513. DOI:10.1111/j.1398-9995.1997.tb02593.x. URL
- ↑ Sadčikova (1973). Manifestations of Reactions to Microwave Irradiation in Various Occupational Groups. Cyhoeddwyr Meddygol Gwlad Pwyl.
- ↑ Hocking. Microwave sickness: a reappraisal, Cyfrol 51, Rhifyn 1, tud. 66–69. URL
- ↑ Kaplan. Unusual cold-induced disorders: cold-dependent dermatographism and systemic cold urticaria. DOI:10.1016/0091-6749(84)90354-3. URL