Damcaniaeth yr alarch du

Oddi ar Wicipedia

Trosiad sy'n disgrifio digwyddiad sy'n peri syndod, yn cael effaith fawr, ac yn aml yn cael ei resymoli'n amhriodol ar ôl hynny gyda y ffaith gyda synnwyr trannoeth yw damcaniaeth yr alarch du neu ddamcaniaeth digywddiadau alarch du. Mae'r term yn seiliedig ar hen ddywediad nad oedd elyrch du yn bodoli - dywediad a ail-ddehonglwyd i gyfleu neges wahanol ar ôl darganfod elyrch du yn y gwyllt.

Datblygwyd y ddamcaniaeth gan Nassim Nicholas Taleb i esbonio:

  1. Rôl anghymesur digwyddiadau prin, proffil uchel, anodd eu rhagweld, sydd y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol mewn hanes, gwyddoniaeth, cyllid a thechnoleg.
  2. Yr anallu i fesur tebygolrwydd y digwyddiadau prin gan ddefnyddio dulliau gwyddonol (oherwydd natur tebygolrwydd bychan).
  3. Y rhagfarnau seicolegol sy'n dallu pobl, fel unigolion ac ar y cyd, i ansicrwydd ac i ddigwyddiad prin yn chwarae rhan enfawr mewn materion hanesyddol.

Yn wahanol i'r "broblem alarch du" gynharach ac ehangach mewn athroniaeth (hy y broblem o anwytho), mae "damcaniaeth alarch du" Taleb yn cyfeirio at ddigwyddiadau annisgwyl sy'n fawr eu canlyniadau a'u rôl flaenllaw mewn hanes. Gyda'i gilydd, mae digwyddiadau o'r fath yn chwarae rôl llawer mwy na digwyddiadau rheolaidd.[1] Yn fwy technegol, yn y monograff gwyddonol 'Silent Risk',[2] mae Taleb yn diffinio problem yr alarch du yn fathemategol fel un sy'n "deillio o ddefnyddio metadebygolrwydd dirywiedig".[2]

Mae'r ymadrodd "alarch du" yn deillio o ymadrodd Lladin: ceir yr enghraifft gynharaf sy'n hysbys yng ngwaith y bardd RhufeinigJuvenal yn y 2g pan mae'n disgrifio rhywbeth fel "rara avis in terris nigroque simillima cygno" ("aderyn prin yn y tiroedd a thebyg iawn i alarch du").[3] Pan gafodd yr ymadrodd ei fathu, tybiwyd nad oedd yr alarch du yn bodoli. Mae pwysigrwydd y trosiad yn gorwedd yn ei gyfatebiaeth â breuder unrhyw system feddwl. Mae'n bosibl y caiff set o gasgliadau ei dadwneud unwaith y caiff unrhyw un o'i hystyriaethau sylfaenol eu gwrthbrofi. Yn yr achos hwn, roedd gweld un alarch du yn dadwneud rhesymeg unrhyw system feddwl, yn ogystal ag unrhyw resymu a ddilynodd o'r rhesymeg sylfaenol honno.

Roedd ymadrodd Juvenal yn ymadrodd cyffredin yn Llundain yn yr 16g fel mynegiant o rhywbeth oedd yn amhosib. Deilliai'r ymadrodd yn Llundain o'r rhagdybiaeth yn yr Hen Fyd bod yn rhaid i bob alarch fod yn wyn oherwydd bod pob cofnod hanesyddol o elyrch yn dweud bod ganddynt blu gwyn.[4] Yn y cyd-destun hwnnw, roedd alarch du yn amhosibl neu ddim yn bodoli o leiaf.

Fodd bynnag, yn 1697, fforwyr o'r Iseldiroedd dan arweiniad Willem de Vlamingh oedd yr Ewropeaid cyntaf i weld elyrch du, yng Ngorllewin Awstralia.[5] Yn dilyn hynny, daeth y term i olygu'r syniad y gall rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn amhosibl ei wrthbrofi yn ddiweddarach. Mae Taleb yn nodi bod John Stuart Mill, yn y 19g, wedi defnyddio twyll rhesymegol yr alarch du fel term newydd i ddisgrifio anwireddiad.[6]

Trafodwyd digwyddiadau alarch du gan Nassim Nicholas Taleb yn ei lyfr Fooled By Randomness a gyhoeddwyd yn 2001 ac a oedd yn ymwneud â digwyddiadau ariannol. Estynnodd y trosiad yn ei The Black Swan (2007) y tu hwnt i farchnadoedd ariannol. Mae Taleb yn ystyried bron pob un o'r prif ddarganfyddiadau gwyddonol, digwyddiadau hanesyddol a llwyddiannau artistig fel "elyrch du" - heb eu cyfarwyddo a heb eu rhagweld. Mae'n rhoi lledaeniad y Rhyngrwyd, y cyfrifiadur personol, y Rhyfel Byd Cyntaf, diddymiad yr Undeb Sofietaidd, ac ymosodiadau Medi 11, 2001 fel enghreifftiau o ddigwyddiadau alarch du.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Taleb, Nassim Nicholas (2010) [2007]. The Black Swan: the impact of the highly improbable (arg. 2nd). London: Penguin. ISBN 978-0-14103459-1. Cyrchwyd 23 May 2012.[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 Taleb, Nassim Nicholas (2015), Doing Statistics Under Fat Tails: The Program, http://www.fooledbyrandomness.com/FatTails.html, adalwyd 20 January 2016
  3. Puhvel, Jaan (Summer 1984). "The Origin of Etruscan tusna ("Swan")". The American Journal of Philology (Johns Hopkins University Press) 105: 209–212. doi:10.2307/294875. JSTOR 294875.
  4. Taleb, Nassim Nicholas. "Opacity". Fooled by randomness. Cyrchwyd 20 January 2016.
  5. "Black Swan Unique to Western Australia", Parliament, AU: Curriculum, http://www.parliament.curriculum.edu.au/wa.php3#symbol.
  6. Hammond, Peter (October 2009), "Adapting to the entirely unpredictable: black swans, fat tails, aberrant events, and hubristic models", WERI Bulletin (UK: Warwick) (1), http://www2.warwick.ac.uk/fac/soc/economics/research/centres/eri/bulletin/2009-10-1/hammond/, adalwyd 20 January 2016