Dail y beiblau
Gwedd
| Hypericum androsaemum | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Malpighiales |
| Teulu: | Hypericaceae |
| Genws: | Hypericum |
| Rhywogaeth: | H. androsaemum |
| Enw deuenwol | |
| Hypericum androsaemum L. | |
Planhigyn blodeuol lluosflwydd a dyf yng ngorllewin Ewrop ydy Dail y beiblau sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Hypericaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Hypericum androsaemum a'r enw Saesneg yw Tutsan.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Dail y Beiblau, Creulys Bendigad, Creulys Bendigaid, Creulys Bendiged, Creulys Benddiged, Dail Penddiged, Dail y Fendigaid, Dail y Twrch, Eurinlys Bendigaid, Gwaed y Gwŷr, Llys Perfigedd, Llys y Penddigaid.
Cynefin y llwyn hwn yw coetiroedd agored a bryniau Ewrasia. Gall dyfu hyd at 1.5 metr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
