Dail y Beiblau

Oddi ar Wicipedia
Dail y Beiblau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Malpighiales
Teulu: Hypericaceae
(neu Clusiaceae)
Genws: Hypericum
Rhywogaeth: H. androsaemum
Enw deuenwol
Hypericum androsaemum
L.

Planhigyn blodeuol o deulu'r Hypericaceae neu Clusiaceae ydy Dail y Beiblau (Saesneg: Tutsan; Lladin: Hypericum androsaemum) sy'n blodeuo rhwng Mehefin ac Awst. Gall dyfu hyd at 30–100 cm.

Ymhlith yr enwau eraill arno y mae: Dail Fyddigaidd, Cail Myddigad, Y Feidiog Las, Dail y Twrch, Gwaed y Gwŷr, Creulys Bendigaid, Creulys Bendiged, Dail Penddiged, Dail y Fendigaid, Eurinlys Bendigaid, Llys Perfigedd a Llys y Penddigaid.[1]

Mae'n tyfu mewn mannau tamp, ffosydd cysgodol ac mewn chloddiau.

Deillia'r enw o'r hen arferiad o ddefnyddio'r dail peraroglus fel llyfrnod mewn beiblau.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llyn.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-09-11.
  2. Geograff

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato