Dafad Llanwenog

Oddi ar Wicipedia
Defaid Llanwenog a Sir Amwythig

Brîd o ddafad sy'n tarddu o Gymru yw dafad Llanwenog. Cafodd ei ddatblygu yn y 19g o ddafad fridiau Llanllwni (sydd bellach wedi diflannu), dafad Sir Amwythig, y ddafad fynydd Gymreig, a dafad Coedwig Clun. Ardal gynhenid dafad Llanwenog yw Dyffryn Teifi, ond y mae bellach wedi ymledu i ardaloedd eraill. Sefydlwyd cymdeithas i'r brîd yn 1957. Mae defaid Llanwenog o anian tawel, hawdd i'w trin, ac maen nhw'n cael eu hadnabod am roi wyn yn dda, gyda'r rhan fwyaf o ddefaid yn rhoi efeilliaid a rheini yn tyfu i tua 20 cilogram mewn 56 diwrnod.[1] Mae'r brîd yn cael ei gadw yn bennaf er mwyn ei gig.[2]

Brîd o faint canolig yw dafad Llanwenog. Gall hwrdd gyrraedd pwysau o 90 cilogram (198 pwys) a'r defaid yn pwyso tua 55 cilogram (121 pwys) ar gyfartaledd. Mae'r wyneb a'r coesau yn ddu gyda chydun o wlan ar y talcen. Mae'r gwlan o ansawdd uchel gyda chyfrif Bradford o 56/58 a hyd o 7.5 centimedr (3 modfedd) and the lambs are fast growing, twin lambs reaching a carcase weight of 19.9 kilogram (43.9 lb) in 56 days.

Mae nifer y defaid Llanwenog wedi bod yn gosteng a chredir bod llai na 3,000 o ddefaid cofestredig yn bridio yn 2015.[3] Mae'r brîd yn ymddangos yn gyson mewn sioeau amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llanwenog". Breeds of Livestock. Oklahoma State University Dept. of Animal Science. Cyrchwyd 2015-08-12.
  2. "Llanwenog/United Kingdom". Breed Data Sheet. Domestic Animal Diversity Information System. Cyrchwyd 2009-09-01.
  3. "Llanwenog sheep". Llanwenog Sheep Breeders' Support Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-07. Cyrchwyd 2015-08-12.
  4. "Llanwenogs on show". Llanwenog Sheep Breeders' Support Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-11. Cyrchwyd 2015-08-12.