Daearyddiaeth y Comoros
Gwedd
| Math | daearyddiaeth lleoliad daearyddol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Y Comoros |
| Cyfesurynnau | 12.17°S 44.25°E |
![]() | |


Lleolir ynysfor y Comoros ym mynedfa ogleddol Sianel Mosambîc, yng ngorllewin Cefnfor India, rhyw hanner ffordd rhwng pen mwyaf gogleddol Madagasgar ac arfordir Mosambîc ar dir mawr Affrica. Mae'n cynnwys pedair prif ynys: Njazidja (Grande Comore), Nzwani (Anjoun), Mwali (Mohéli), a Mahoré (Mayotte). Département tramor a rhanbarth tramor Ffrainc yw Mayotte, ond mae Undeb y Comoros yn hawlio sofraniaeth dros yr ynys honno.
Mae Undeb y Comoros yn cynnwys Njazidja, Nzwani, Mwali, a sawl ynysig, a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 2170 km² (838 milltir sgwâr).
