Dadbalmantu

Oddi ar Wicipedia

Dadbalmantu weithiau hefyd Dadbafino (Saesneg: Depaving) yw’r broses o gael gwared ar arwynebau anhydraidd fel concrit, tarmac ac asffalt a rhoi deunyddiau fel pridd, graean a palmant athraidd yn eu lle sy'n caniatáu i ddŵr symud trwyddynt. Gellir plannu amrywiaeth eang o planhigion addas yn yr ardaloedd sydd wedi'u dadbafino er mwyn harddwch a hefyd cyflymu amsugno a chadw dŵr.[1] Mae dadbalmentu hefyd yn fudiad i ddod â bywyd natur yn arbennig i gymunedau trefol.

Athroniaeth[golygu | golygu cod]

Mae arwynebau pafinog, fel palmant, llain parcio cartref, a meysydd parcio er yn ddefnyddiol ar gyfer teithio cyflym a hawdd a'u defnyddio o ddydd i ddydd, yn creu effeithiau negyddol i fyd natur. Ymysg y effeithiau negatif:

  • cynnydd ddŵr ffo
  • crynodiad llygryddion yn y dŵr ffo hwnnw
  • "ynysoedd gwres" trefol
  • gostyngiad cyffredinol mewn mannau gwyrdd
  • dieithro pobl trefol oddi ar y byd natur

Cred y mudiad dadbalmantu os nad yw'r arwyneb palmantog yn berthnasol neu'n angenrheidiol i fywyd bob dydd, yr ateb gorau yw dadbalmentu.[2]

Mudiad Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Mae'r 'mudiad' dadbalmantu yn un ymgyrchiol gydag unigolion yn creu grwpiau lleol er mwyn dadbalmentu rhannau o'i cynefin lleol.

Amcanion grŵp megis 'Depave' sy'n weithgar yn nhalaith Oregon yw:[3]

  • Rhoi gwybodaeth, ysbrydoliaeth a chymorth technegol i'r rhai sy'n dymuno cael gwared ar bafin
  • Addysgu'r cyhoedd am fanteision codi pafin
  • Eiriolwr i leihau a/neu leihau faint o batinoedd anhydraidd mewn prosiectau adeiladu ac atgyweirio cyhoeddus
  • Hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu concrit ac asffalt yn gyfrifol ac yn greadigol
  • Rhowch gyfle i gael mwy o gysylltiad â'r byd naturiol

Plethu fewn i Gynllunio Trefol[golygu | golygu cod]

Mae elfennau o athroniaeth dadbalmantu yn cael ei mabwysiadau gan rai awdurdodau lleol gan gynnwys Y Barri a derbyniodd grant o £192,000 o Lywodraeth Cymru yn rannol at dadbafino [4] a sonia cynllun Maer Llundain am dadbafino yn ei raglen waith.[1]

Cymru[golygu | golygu cod]

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud Systemau Draenio Cynaladwy (SuDS, sustainable drainage systems, SuDS) yn orfodol ers Ionawr 2019.[5][6] sydd yn cynnwys elfennau o dadbafino fel cydnebir gan sawl arbenigwr yn y maes.[7]

Er nad oes mudiad benodol Gymreig o blaid dadbafino, mae gwefannau fel Floodlist yn nodi'r posibilrwydd o gynyddu dadbafino er mwyn delio gyda llifogydd dŵr sy'n rhuthro oddi ar arwyneb caled artifisial yn hytrach na chael ei hamsugno fewn i'r ddaear. Maent yn nodi peryglon adeiladu ar gorlifdiroedd heb bod lle naturiol i ddŵr suddo yn naturiol i'r ddaear yn enwedig wedi cyfnod glawiog.[8]

Terminoleg Cymraeg[golygu | golygu cod]

Cafwyd trafodaeth ar y term Gymraeg cywir i 'depaving' ar Twitter gan ddod at y casgliad bod 'palmant' yn air ehangach ei hystyr na 'pafin'.[9] Nodwy mai ystyr palmant oedd "wneb (ffordd, llawr etc) o feini, llechi, concrit, asffalt etc. pafin; sarn, cawsai." Ceir y cofnod cynharaf o'r gair "palmant" o'r 15g.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://www.london.gov.uk/sites/default/files/grey_to_green_guide.pdf
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-06. Cyrchwyd 2020-07-05.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-06. Cyrchwyd 2020-07-05.
  4. https://www.barryanddistrictnews.co.uk/news/18548121.green-infrastructure-grant-barry-court-road-roundabout/
  5. https://llyw.cymru/rheoliadau-draenio-cynaliadwy-yn-dod-i-rym
  6. https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/planning-and-development/advice-for-developers/sustainable-drainage-systems-suds/?lang=cy
  7. https://www.thedeveloper.live/podcasts/podcasts/de-urbanisten-from-drain-to-sponge-city
  8. http://floodlist.com/tag/wales
  9. https://twitter.com/MarchGlas/status/1279871240019365889
  10. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?palmant

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]