Neidio i'r cynnwys

Cytundeb Waitangi

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Waitangi
Enghraifft o:cytundeb Edit this on Wikidata
IaithMaori, Saesneg Newydd Seland Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1840 Edit this on Wikidata
LleoliadWaitangi, Archives New Zealand Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata[1]
Map
GwladwriaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0y829 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytundeb Waitangi

Arwyddwyd Cytundeb Waitangi (Saesneg:Treaty of Waitangi, Māori: Tiriti o Waitangi) ar 6 Chwefror 1840 gan gynrychiolwyr Coron Prydain a phenaethiaid Māori amrywiol o Ynys y Gogledd, Seland Newydd.

Arweiniodd y Cytuniad at sefydlu swydd Llywodraethwr Prydain dros Seland Newydd, cydnabyddiaeth o berchnogaeth y Māori dros eu tiroedd a’u heiddo, ac fe roddwyd i’r Māori hawliau fel deiliaid Prydeinig. Mae fersiynau Saesneg a Māori y Cytundeb yn wahanol yn sylweddol, felly nid oes consensws ynghylch beth yn union y cytunwyd iddynt. O safbwynt Prydain, rhoddodd y Cytundeb sofraniaeth i Brydain dros Seland Newydd a’r hawl i’r Llywodraethwr i lywodraethu'r wlad. Credodd y Māori ar y llaw arall eu bod yn ildio i'r Goron yr hawl i lywodraethu mewn cyfnewid am ddiogelwch, a’u bod yn parhau i fod ag awdurdod i reoli eu materion eu hunain.[2] Ar ôl y llofnodi cychwynnol yn Waitangi, aed â chopïau o'r Cytundeb o gwmpas Seland Newydd a thros y misoedd canlynol fe’i llofnodwyd gan benaethiaid eraill. Roedd cyfanswm o naw copi o'r Cytundeb Waitangi gan gynnwys y gwreiddiol a'i llofnodwyd ar 6 Chwefror 1840.[3] Fe wnaeth tua 530-540 o benaethiaid, o leiaf 13 ohonynt yn fenywod, arwyddo Cytuniad Waitangi.[4][5]

Hyd at y 1970au, ystyrir bod y Cytundeb yn gyffredinol wedi gwasanaethu ei bwrpas yn Seland Newydd y 1840au, ac fe'i hanwybyddwyd gan y llysoedd a senedd fel ei gilydd. Fe’i dehonglwyd yn hanes Seland Newydd fel gweithred hael ar y rhan Coron Prydain, a oedd ar y pryd yn ei anterth.[6] Mae’r Māori wedi edrych tuag at y Cytundeb am ddatrysiadau mewn achosion o gam-drin hawliau, colli tir a thriniaeth anghyfartal gan y wladwriaeth, gyda llwyddiant cymysg. O ddiwedd y 1960au dechreuodd y Māori dynnu sylw at achosion o dorri'r Cytundeb, ac mae hanes diweddar wedi pwysleisio problemau gyda'r cyfieithiad Māori o’r cytundeb.[7] Yn 1975, sefydlwyd Tribiwnlys Waitangi fel comisiwn parhaol gyda’r dasg o ymchwilio i achosion o dorri’'r Cytundeb gan y Goron neu ei gynrychiolwyr ac awgrymu dulliau o wneud iawn am hyn.

Heddiw fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y ddogfen a sefydlodd Seland Newydd fel cenedl. Er hyn, mae'r Cytundeb yn aml yn destun dadlau brwd, a llawer o anghytuno rhwng y Māori a’r rhai o Seland Newydd nad ydynt o dras Māori. Mae llawer o’r Māori yn teimlo nad yw'r Goron yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac wedi cyflwyno tystiolaeth o hyn o flaen y Tribiwnlys. Mae rhai nad ydynt o dras Māori wedi awgrymu bod y Māori yn camddefnyddio'r Cytundeb er mwyn hawlio "breintiau arbennig".[8][9] Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes raid i’r Goron weithredu ar argymhellion y Tribiwnlys, ond serch hynny mewn sawl achos, mae’r Goron wedi derbyn ei bod yn torri'r Cytundeb a'i egwyddorion. Hyd yn hyn mae setliadau wedi cynnwys cannoedd o filiynau o ddoleri o iawndal mewn arian parod ac asedau, yn ogystal ag ymddiheuriadau.

Mae dyddiad y llofnodi bellach yn wyliau cenedlaethol ers 1974, ac fe elwir y diwrnod yn Ddiwrnod Waitangi.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.unesco.org/en/memory-world/treaty-waitangi.
  2. "Meaning of the Treaty". Waitangi Tribunal. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 12 July 2011.
  3. "Treaty of Waitangi – Te Tiriti o Waitangi". Archives New Zealand. Cyrchwyd 10 August 2011.
  4. "Treaty of Waitangi". Waitangi Tribunal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 10 August 2011.
  5. C. Orange.The Treaty of Waitangi.Bridget Willians .1987.Appendices P 260
  6. "The Treaty in practice: The Treaty debated". nzhistory.net.nz. Cyrchwyd 10 August 2011.
  7. "Treaty of Waitangi – Meaning". Waitangi Tribunal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 10 August 2011.
  8. Dr Donald Brash (26 March 2004). "Orewa Speech -Nationhood". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 20 March 2011.
  9. Radio Live (1 February 2012). "AUDIO: Laws vs. JT on the Treaty of Waitangi". Cyrchwyd 8 February 2012.