Cynghrair Rhyngwladol Dim Gwastraff

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair Rhyngwladol Dim Gwastraff
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ117113116 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auQ117113116 Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://zerowasteeurope.eu/ Edit this on Wikidata

Cynghrair Rhyngwladol Dim Gwastraff, Ewrop (iaith wreiddiol: Zero Waste Europe (ZWE)) yw'r rhwydwaith Ewropeaidd o gymunedau, sefydliadau, arweinwyr lleol, arbenigwyr, ac asiantau sy’n gweithio tuag at ddileu gwastraff yn ein cymdeithas ledled Ewrop. Maent yn eiriol dros systemau cynaliadwy ac ailgynllunio perthynas pobl gyda'u hadnoddau, er mwyn cyflymu’r broses o ddim gwastraff, er budd dynoliaeth a’r blaned. Mae rhwydwaith ZWE bellach yn cynnwys 35 aelod (NGOs) mewn 28 o wledydd Ewropeaidd ac yn gweithio ar nifer o bynciau gwahanol. Ym Mrwsel mae ei phencadlys ond mae ganddi nifer o grwpiau mewn gwahanol wledydd yn eiriol ar ei rhan.[1]

Crëwyd ZWE yn 2014, fel cangen ranbarthol Ewropeaidd y Gynghrair Fyd-eang ar gyfer Llosgyddion Amgen (GAIA), ac ers hynny mae wedi sefydlu ei hun fel amgylchedd allweddol, economi gylchol, pontio cyfiawn, gan greu rhwydwaith o fudiadau yn Ewrop.[2]

Yng Nghymru, mae'r Senedd yn cymryd y cyfrifoldeb o wneud y gwaith hwn.[3] Mae ganddi ddwy garreg filltir, gan gynnwys, erbyn 2025, y bydd Cymru wedi gostwng yn sylweddol ei gwastraff a bydd yn rheoli unrhyw wastraff a gynhyrchir. Yn yr Alban, ceir uno sefydliadau'r rhwydwaith (gweler isod).

Ceisia'r rhwydwaith gadw holl adnoddau'r Ddaear trwy gynhyrchu call, defnyddio, ailddefnyddio ac adfer yr hyn a gynhyrchwyd mewn ffordd cyfrifol, heb eu llosgi, a heb ddifetha'r tir. Mae ein planed bob amser wedi dilyn egwyddorion 'dim gwastraff', sef mewn geiriau eraill, mae wedi ailgylchu popeth. Am filoedd o flynyddoedd, hyd at y cyfnod diwydiannol, nid oedd gwastraff yn bodoli, nac yn gysyniad hyd yn oed oherwydd defnyddiwyd y rhan fwyaf o ddeunydd a all bydru, neu a ellir eu hailddefnyddio ar gyfer prosesau eraill, yn union fel y mae natur yn ei wneud. Ond yr hyn y mae natur wedi'i wneud trwy esblygiad, mae angen i ddynolryw ei wneud trwy gynllun byd-eang.

Enghraifft[golygu | golygu cod]

Yr Alban[golygu | golygu cod]

Mae Dim Gwastraff yr Alban (Zero Waste Scotland) yn bodoli i arwain yr Alban i ddefnyddio cynnyrch ac adnoddau’n gyfrifol, gan ganolbwyntio ar ble y gall gael yr effaith fwyaf ar newid hinsawdd. Mae'n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, Awdurdodau Sirol, y cyhoedd, cwmniau preifat a chyhoeddus.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. zerowasteeurope.eu; adalwyd 11 Mai 2023.
  2. circulareconomy.europa.eu; adalwyd 11 Mai 2023.
  3. gov.wales; adalwyd 11 Mai 2023.
  4. zerowastescotland.org.uk; adalwyd 11 Mai 2023.