Cymro America

Oddi ar Wicipedia
Cymro America
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
Erthygl am y papur newydd yw hon. Gweler hefyd Cymry Americanaidd.

Papur newydd Cymraeg a gyhoeddwyd gan Gymry yn yr Unol Daleithiau oedd Cymro America. Ymddengys mai dyma'r newyddiadur Cymraeg cyntaf erioed i gael ei gyhoeddi yn UDA, ond byr fu ei barhad. Ni ddylid ei gymysgu â phapur newydd arall o enw cyffelyb, sef Y Cymro Americanaidd.

Cychwynodd y papur yn gynnar yn y flwyddyn 1832 yn Ninas Efrog Newydd. Ei olygydd oedd J. A. Williams ('Don Glan Towy'), argraffydd a ddeuai'n wreiddiol o Abertawe.[1]

Deuai Cymro America allan bob bythefnos. Pris tanysgrifiad blwyddyn oedd $2. Ond daeth y papur i ben yn yr un flwyddyn ag y cychwynodd. Un o'r rhesymau am hynny oedd bod colera wedi torri allan yn Efrog Newydd gydag effeithiau difrifol ar fasnach y ddinas, a rhedodd y fenter allan o arian. Er byrred ei barhad, mae'n haeddu lle yn hanes cyhoeddi gan Gymry yr Unol Daleithiau fel y fenter gyntaf o'i fath.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893). Pennod V.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.llgc.org.uk/index.php?id=520&L=1 Llyfrgell Genedlaethol Cymru