Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eirlys Gruffydd, Ysgrifennydd y gymdeithas.

Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn 1996, gyda'r nod o 'warchod ffynhonnau Cymru sydd â thraddodiadau'n perthyn iddynt neu sydd o bensaerniaeth diddorol'. Maent yn cyhoeddi cylchlythyr (neu cylchgrawn) Llygad y Ffynnon ddwywaith y flwyddyn; y golygydd ydy'r awdur Eirlys Gruffydd.[1] Y Llywydd yw'r Dr Robin Gwyndaf a'r Cadeirydd yw Howard Huws.

Dosberthir y Ffynhonnau i'r hen siroedd, gyda thudalen i bob ffynnon yn ei disgrifio e.e. ceir 36 ffynnon yn yr adran "Sir Gaernarfon".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru; adalwyd 10 Awst 2013.