Cyhyryn pedryben

Oddi ar Wicipedia

Grŵp o gyhyrau mawrion sy'n cynnwys y pedair prif gyhyr ar flaen y forddwyd yw'r cyhyryn pedryben (Saesneg: quadriceps femoris) sy'n dod o'r Lladin am "gyhyryn pedwar-pen asgwrn y forddwyd". Weithiau cyfeirir at y cyhyr fel y cwadriceps hefyd. Dyma brif gyhyr ymestynnol y pen-glin, gan ffurfio ardal gnawdol fawr sy'n gorchuddio tu blaen ac ochr asgwrn y forddwyd. Dyma gyhyr cryfaf y corff dynol.

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.